Gyda thristwch y derbyniondd GPC y newyddion am farwolaeth yr Athro John Morgan-Guy. Rydym yn ddiolchgar iawn am yr amryw gyfraniadau a wnaeth yr Athro Morgan-Guy i’r Wasg, gan gynnwys ei waith fel golygydd ein Journal of Religious History, Literature and Culture a chyd-olygydd y gyfrol Trysorau: Casgliadau Arbennig Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Yn 2021, cyhoeddodd GPC History, Society and the Individual: Essays by John Morgan-Guy, a oedd yn cynnwys pump ysgrif o blith y deunydd ymchwil casglodd yr Athro Morgan-Guy dros y chwarter canrif diwethaf, gan gynrychioli ystod eang ei ddiddordebau mewn hanes eglwysig, hanes meddygol a’r celfydyddau gweledol.