Tanysgrifiadau
Mae Gwasg Prifysgol Cymru wedi mynd i bartneriaeth gyda Liverpool Subscription Services yng Ngwasg Prifysgol Lerpwl i brosesu archebion tanysgrifio.
Mae tanysgrifiadau am gyfnod o un flwyddyn, a byddwch yn derbyn y rhifynnau a gyhnoeddir yn y flwyddyn honno. Anfonir cyfnodolion print drwy’r post, ac os ydych chi’n danysgrifiwr ar-lein, gallwch gyrchu eich rhifynnau drwy Ingenta.
Sut i danysgrifio
Anfonwch ebost at subscriptions@liverpool.ac.uk gyda’r wybodaeth ganlynol:
- Enw’r cyfnodolyn
- Y math o danysgrifiad rydych chi’n ei ddewis (print yn unig, ar-lein yn unig neu gyfuniad)
- Pa un a ydych chi’n tanysgrifio fel sefydliad neu unigolyn
- Y flwyddyn yr hoffech danysgrifio iddi
- Eich enw, cyfeiriad post a chyfeiriad ebost
Talu
Byddwch yn derbyn dolen at safle talu diogel drwy ebost.
Rhestrir y prisiau ar y tudalennau canlynol:
- Cylchgrawn Hanes Cymru
- Studia Celtica
- Llên Cymru
- Journal of Celtic Linguistics
- The Journal of Religious History, Literature and Culture