‘Astudiaethau Cymreig’: ymadrodd digon llipa, yn fy marn i. Pwy glywodd am gyfeiriad at ‘Astudiaethau Seisnig’ erioed ym mhrifysgolion Lloegr? Yno, yr un fath ag ym mhob gwlad aeddfed arall, y mae’r gwaith cyson o fwrw gorolwg ddeallusol amlweddog a chynhwysfawr dros brif nodweddion y genedl yn wedd annatod a chanolog ar y gyfundrefn addysg, fel ar y diwylliant poblogaidd. O’r herwydd y mae’r broses honno’n anweledig i bob pwrpas. Nid felly yma yng Nghymru, ysywaeth. Ac o ganlyniad, y term ‘Astudiaethau Cymreig’ yw’r unig ymadrodd sydd ar gael inni ddisgrifio ymdrech awduron, ysgolheigion a deallusion ar draws holl sbectrwm y Celfyddydau, Dyniaethau a’r Gwyddorau i adolygu’r neilltuolion hynny sy’n nodweddu Cymru.

Eithr heb ymdrechion o’r fath y mae gwir beryg na all Cymru – rhagor nag unrhyw wlad neu genedl arall – oroesi fel cymuned genedlaethol. Oherwydd cysyniad ideolegol yw pob cenedl yn y bôn. Golyga hynny bod yn rhaid i gymdeithas, chwedl Renan, ‘fwrw pleidlais’ ddyddiol, megis, o blaid parhad ei hunigrywedd hi ei hun.

O’r herwydd, y mae angen i gymunedau cenedlaehol arfer dulliau dadansoddiadol deallusol disgybledig er mwyn cynnal a chadw eu hamgyffred, a’u hadnabyddiaeth ohonynt hwy eu hun. Gan mai’r prifysgolion yw’r sefydliadau mwyaf addas at y gwaith hwn, y maent yn cael eu hariannu gan eu gwladwriaethau cenedlaethol brodorol dros y byd at yr union bwrpas.

Nid felly yng Nghymru. Yma, ni wnaed ‘Astudiaethau Cymreig’ erioed yn rhan annatod a chanolog o raglenni gwaith ein prifysgolion. Bu’n rhaid i’r gweithgareddau hynny grafu byw ar yr ymylon, gan lechu yn y cysgodion a dibynnu ar gardod.

Prin chwarter canrif sydd wedi mynd heibio ers i Hanes Cymru, er enghraifft, wynebu ebargofiant yng ngholegau addysg uwch Cymru, wrth i un genhedlaeth o haneswyr cynhyrchiol a phrofiadol ymddeol heb unrhyw ymrwymiad gan – heb sôn am rheidrwydd ar – y sefydliadau i benodi cenhedlaeth newydd yn eu lle.

Bregus iawn bu sefyllfa ‘Astudiaethau Cymreig’ oddi mewn i’n system addysg uwch erioed, felly. Serch hynny, yr ydym ar hyn o bryd yn wynebu argyfwng cyn ddifrifoled ag unrhyw argyfwng a wynebwyd gennym yn y gorffennol.

A’r rheswm am hynny? Y mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru wedi cyhoeddi na fydd y swm pitw (ar hyn o bryd, £132K y flwyddyn) a fu’n galluogi ysgolheigion ym maes Astudio Cymru ers pymtheg mlynedd i gyhoeddi ffrwyth eu hymchwil ar gael iddynt o haf 2014 ymlaen. Ac nid oes disgwyl unrhyw benderfyniad eto ynghylch trefn amgen o ariannu i’r dyfodol tan o leia ddiwedd 2014.

Golyga hyn yn syth bin na fydd hi’n bosib i’r ysolheigion hynny sy’n arbenigo ym meysydd Astudio Cymru ymbaratoi ar gyfer yr Asesiad Ymchwil tyngedfennol a fydd yn cael ei gynnal nesaf yn 2020. Er nad yw’r maes Astudiaethau Cymreig yn llwyr ddibynnol, mae’n wir, ar y swm a glustnodwyd hyd yn hyn gan y Cyngor Cyllido, y mae’r mwyafrif llethol iawn o’r cyhoeddiadau yn y maes wedi cael eu hariannu gan y gronfa honno. Felly, wrth ddirwyn y gronfa i ben, fe fydd y Cyngor yn amddifadu nifer enfawr o ysgolheigion o’r gobaith y gwelir cyhoeddi eu gwaith cyn diwedd 2019 (sef dyddiad sensws yr Asesiad Ymchwil). Yn wyneb yr ansicrwydd dybryd hwn, bydd yn rhaid i ysgolheigion ifainc ystyried yn ddwys iawn cyn mentro ymroi o’u hamser a’u hegni i Astudio Cymru. A bydd yn rhaid i ysgolheigion profiadol, cynhyrchiol, aeddfed, ystyried o ddifrif y posibilrwydd o arall-gyfeirio, gan gefnu ar Gymru ac arbenigo mewn rhyw faes newydd ‘estron’.

Ond os, ar waethaf hyn oll, bydd rhai ysgolheigion am barhau i wasanaethu Cymru, yna bydd yn eithriadol anodd iddynt gynllunio ar gyfer yr Asesiad Ymchwil, a hynny hyd yn oed os digwydd i’r Cyngor Cyllido newid ei feddwl a phenderfynu adnewyddu’r gronfa. Gan na fydd gweisg yn fodlon gwarantu cyhoeddi cyn diwedd 2019 oni bai bod testunau’n eu cyrraedd erbyn canol 2018, golyga hyn na fydd gan ysgolheigion fwy na thair blynedd (2015–18) i ymchwilio, i ’sgrifennu ac i gyflwyno eu testunau, oherwydd ni fydd modd iddynt gychwyn yn hyderus ar y gwaith cyn derbyn cytundeb cyhoeddi pendant gan wasg.

Yn wyneb hyn oll, fe gwyd cwestiwn yn anorfod i’r meddwl: oes gan y rheini sy’n rheoli’r cronfeydd a’r cynlluniau ariannu unrhyw brofiad helaeth o gwbl bellach o’r boses o ymchwilio a chyhoeddi? Ynteu a oes rhyw fwlch diadlam wedi agor rhwng ‘rheolwyr’ y gyfundrefn addysg uwch a’r ysgolheigion a’r ysgolheictod hynny sydd, yn y pen draw, o hanfodol bwys i’r gyfundrefn gyfan?

Golyga’r sefyllfa argyfyngus hon fod galw am ymateb nerthol ac adeiladol, ynghyd ag arweiniad cadarn a chlir. O’r herwydd, mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru’n bwriadu cydlynu ymgyrch fydd yn ceisio mynd i’r afael o ddifri â’r broblem sy’n ein llethu. A nod pellach y Gymdeithas yn y tymor canolig fydd hybu datblygiad Cymdeithas Astudio Cymru. Oherwydd onid yw’n berffaith amlwg y bydde o les mawr i’r ysgolheigion hynny sy’n gweithio yn y disgyblaethau hynod amrywiol oddi mewn i faes amlweddog Astudiaethau Cymreig ddyfod at ei gilydd i rannu profiad, i gynllunio ac i ymgyrchu? Dim ond ar ôl uno y daw gobaith y medrir sicrhau cyfundrefnau priodol gogyfer â chynllunio, ariannu a datblygu’r maes er lles y genedl gyfan.

M. Wynn Thomas, Athro’r Saesneg a Deilydd Cadair Emyr Humphreys yn Llên Saesneg Cymru, Prifysgol Abertawe
Is-Lywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru