Barn o’r Brifysgol – Sut mae GPC yn cofleidio newidiadau modern yn y diwydiant cyhoeddi.

Gwelwyd newidiadau dramatig yn y byd cyhoeddi dros y blynyddoedd diwethaf, yn sgil y chwyldro digidol. Llyfrau oedd un o’r nwyddau traul mwyaf llwyddiannus i’w gwerthu ar-lein, gan arwain at ddyfodiad y gwerthwr ar-lein hollbresennol hwnnw, Amazon. Daeth dulliau argraffu digidol â manteision a heriau yn eu tro i gyhoeddwyr traddodiadol, gan ganiatáu ar gyfer rhediad print llai o faint i lyfrau arbenigol ac ar yr un pryd, arwain at ffenomen gwbl newydd, sef hunan-gyhoeddi. Yna daeth y darllenwyr digidol cyntaf fel Kind…