Croeso cynnes iawn i gyfnod cyffrous newydd ar gyfer y Wasg – gwefan newydd sbon gyda’n blogiau dwyieithog ein hunain ar ystod eang o bynciau difyr. Gan ein bod yn cael y fraint o weithio gyda chymaint o awduron gwahanol a thalentog o bedwar ban byd, byddwn yn gwahodd rhai ohonynt i ysgrifennu blogiau ar ein cyfer: tra bod materion cyhoeddi yn hanfodol bwysig, rydym hefyd yn awyddus i wneud cysylltiadau gyda’n cymuned ehangach a’i holl ddiddordebau amrywiol.

Gellid cwestiynu doethineb ymgymryd â gwefan gwbl newydd mewn blwyddyn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF), ond gan bod cymaint o ddisgwyl amdani o du awduron, cwsmeriaid ac aelodau’r bwrdd fel ei gilydd, ein teimlad oll oedd bod angen i hyn ddigwydd – ac afraid dweud fy mod yn falch iawn ei fod wedi. Rwy’n gobeithio y byddwch yn mwynhau defnyddio ein gwefan – rydym yn sicr yn awyddus i gael eich adborth, gan mae megis dechrau yr ydym.

Mae’r blog cyntaf wedi’i gyflwyno i’m holl gydweithwyr rhagorol sydd wedi gwneud i’r wefan ddigwydd, ynghyd â phawb sydd wedi cyfrannu at waith Gwasg Prifysgol Cymru dros y degawdau maith ac sydd wedi cyfrannu at yr hyn yr ydym ni heddiw. Byddai Cymru a’r byd dipyn tlotach hebddi – mae hynny’n bendant.

Helgard Krause (Cyfarwyddwr)