Mynychais gynhadledd flynyddol Cymdeithas Llên Saesneg Cymru yn ddiweddar. Cynhaliwyd y gynhadledd yn neuadd ysblennydd Gregynog gyda’i gyfoeth o weithiau celf o gasgliad anhygoel y chwiorydd Davies. Lleoliad delfrydol i ysbrydoli trafodaeth a syniadau ynglŷn â llenyddiaeth, ac yn sicr bu tipyn go lew o drafod dros y penwythnos! Roedd papur yr Athro Murray Pittock o Brifysgol Glasgow i agor y gynhadledd nos Wener yn ysgogiad ar gyfer trafodaeth frwd o thema’r penwythnos, sef ‘In/Dependent Wales’, gan mai gofyn pa mor gywir a phriodol yw’r term ‘The British People’ bellach a wnaeth. Dilynwyd ei bapur heriol gan drafodaeth weddol boeth ynglŷn â dyfodol ‘Prydain’ a’r posibilrwydd o annibyniaeth i’r Alban ym mis Medi. Cafwyd diwrnod llawn iawn ar y dydd Sadwrn wrth i dros ugain o academyddion a myfyrwyr ôl-raddedig draddodi papurau ar ystod eang tu hwnt o bynciau: o nofelau hanesyddol John Cowper Powys a Christopher Meredith i ffuglen imperialaidd Owen Rhoscomyl, y cowboi o Gymru! Mwynheais yn arbennig drafodaeth Alexandra Jones, myfyrwraig ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe, o anabledd a hunaniaeth mewn nofelau o’r ardaloedd glofaol yn ne Cymru a gogledd Lloegr. Roedd yn braf iawn i weld yn gyffredinol bod gymaint o fyfyrwyr disglair yng Nghymru yn gwneud ymchwil ffres a gwreiddiol ar Lên Saesneg Cymru ar hyn o bryd.

Llion Wigley