Teithiais i Leeds ar y 9fed o Orffennaf er mwyn mynychu’r gynhadledd ganoloesol ryngwladol sy’n cael ei chynnal yn y brifysgol yno bob blwyddyn. Mae dros 2,000 o haneswyr, ymchwilwyr, awduron a myfyrwyr o Brydain, Ewrop  a thu hwnt yn mynychu’r gynhadledd, sy’n cynnwys mwy na mil o bapurau a sesiynau dros bedwar diwrnod. Bûm yn bresennol ar Ddydd Iau yn unig ar gyfer diwrnod cyfan o sesiynau ar hanes Cymru – Cymru a’r Byd oedd y thema, dan nawdd Canolfan Prifysgol Abertawe ar gyfer Ymchwil Canoloesol. Traddododd Bryn Jones, myfyriwr doethur o Brifysgol St Andrews, bapur difyr tu hwnt ar ei waith ymchwil yn y Fatican, lle mae wedi bod yn creu llawrestr o’r holl ddogfennau yn ei harchif sy’n ymwneud â Chymru yn y cyfnod cyn y Goncwest ym 1282, ffynhonnell a fydd o ddefnydd enfawr i ymchwilwyr yn y dyfodol. Trafododd Sue Johns o Brifysgol Bangor yr hyn mae seliau o’r Oesoedd Canol yn datgelu am statws cymdeithasol menywod – mae ei hymchwil yn ran o brosiect ehangach prifysgolion Bangor ac Aberystwyth ar seliau yng Nghymru’r Oesoedd Canol rhwng 1200–1500, prosiect a fydd yn ehangu’n dealltwriaeth hanesyddol o’r cyfnod yn sylweddol.

Cafwyd cyfraniadau diddorol i’r diwrnod hefyd gan Rhun Emlyn o Brifysgol Aberystwyth, ac Adam Chapman o’r Sefydliad ar gyfer Ymchwil Hanesyddol yn Llundain. Clerigwyr o Gymru a deithiodd ar draws y ffin i weithio o fewn esgobaethau Seisnig oedd pwnc papur Rhun, a datgelwyd y rhesymau pam yr arweiniwyd cynifer o Gymry ar hyd y llwybr hwn yn yr Oesoedd Canol. Edrychodd Adam ar rai o ryfeloedd y cyfnod o bersbectif y milwr Cymreig, a dangoswyd hefyd sut oedd ei gyfoeswyr yn Ewrop yn ei ganfod a’i bortreadu. Diwrnod addysgiadol a difyr a daflodd tipyn o oleuni ar y berthynas rhwng Cymru a’r byd ehangach yn yr Oesoedd Canol, rhan fechan ond holl-bwysig, fel Cymru ei hun, o un o gynadleddau hanesyddol mwyaf lliwgar ac amrywiol y flwyddyn.

Llion Wigley