Cynhaliwyd cynhadledd ryngwladol gyntaf erioed y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar Orffennaf 1–3, ac roedd y digwyddiad tri diwrnod yn lwyddiant ysgubol. Mynychodd dros ddau gant o academyddion, myfyrwyr ymchwil ac aelodau o’r cyhoedd, yn eu plith ddarlithwyr ac arbenigwyr blaenllaw mewn ieithoedd lleiafrifol o bob cwr o Ewrop. Un o’r rhain oedd y prif siaradwr ar yr ail fore, yr Athro Jasone Cenoz o Brifysgol Gwlad y Basg, a draddododd ei darlith hithau ar y Fasgeg mewn addysg uwch yn iaith ei gwlad – tipyn o her i’r cyfieithydd ar y pryd, ond llwyddodd yn arbennig i gyfleu ystyr a neges bwysig y ddarlith, sef bod lefel cyrhaeddiad a chymwysterau plant ysgol a myfyrwyr yng Ngwlad y Basg sy’n gallu siarad Basgeg yn ogystal â Sbaeneg yn uwch na’r rheiny sydd yn siarad Sbaeneg yn unig.

Dilynwyd y ddarlith honno gan sesiwn o bapurau ymchwil, y cyntaf o sawl sesiwn tebyg dros y ddau ddiwrnod nesaf. Yr unig drueni oedd bod rhai o’r sesiynau yn cyd-redeg, felly nid oedd modd gwrando ar bob un o’r papurau difyr a draddodwyd! Cefais flas arbennig ar yr arlwy yn y sesiwn gyntaf i mi ei fynychu, lle siaradodd Ned Thomas, Huw Williams a Sel Williams am eu hymchwil yng nghyswllt syniadaeth iaith a’r berthynas ag addysg.  Roedd papur Sel Williams yn heriol a chyffrous wrth iddo archwilio’r berthynas rhwng cyfrwng a chynnwys addysg Gymraeg a chwestiynu i ba raddau mae’r cynnwys wedi derbyn sylw hyd yma, wrth i ni fel cymuned Gymraeg ganolbwyntio’n ormodol efallai ar y cyfrwng. Pwysleisiwyd yr angen dirfawr i ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg yn seiliedig ar baradeim diwylliannol Cymreig, hynny yw i Gymreigio’r cynnwys yn ogystal a’r cyfrwng.

Dychwelais ar ôl cinio i glywed darlith gan Dr Jan Roukens, brodor o’r Iseldiroedd a chynt o’r Comisiwn Ewropeaidd, ar oroesi globaleiddio. Dadleuwyd fod y grymoedd economaidd a gwleidyddol sy’n arwain ac yn rheoli globaleiddio yn milwrio yn erbyn ieithoedd lleiafrifol wrth annog unffurfiaeth ddiwylliannol a chymdeithasol, a chryfhau Saesneg yn benodol fel iaith lywodraethol yn Ewrop a thu hwnt.  Yr unig obaith i wrthsefyll y fath rymoedd yw trwy gynnig gweledigaeth amgen o sut i drefnu cymdeithas ac addysg er mwyn hybu democratiaeth ac amrywiaeth. Mae’n amlwg fod y gwaith o ddatblygu addysg uwch trwy gyfrwng y Gymraeg yn rhan hanfodol o’r ymdrech hon (ac mae’r Coleg, wrth gwrs, yn arwain y gwaith yma). Yn ystod sesiwn y prynhawn, clywsom am un o brosiectau’r Coleg – Prosiect Deche – sydd wrthi’n rhoi gweithiau academaidd Cymraeg pwysig a phrin o’r gorffennol ar-lein, er mwyn i fyfyrwyr ac unrhyw un arall sydd a diddordeb eu darllen. Trwy hyn, mae’n bosib bellach i bori ar Y Porth drwy ysgrifau’r athronydd amryddawn J. R. Jones, yn ogystal â fersiwn Cymraeg o’r Maniffesto Comiwnyddol a nifer o weithiau difyr eraill.

Ar fore olaf y gynhadledd, traddododd yr Athro Durk Gorter o Ikerbasque (Sefydliad Gwyddoniaeth Gwlad y Basg) ddarlith hynod ddiddorol arall ynglŷn ag amlieithrwydd. Dangosodd bod nifer o genhedloedd eraill Ewropeaidd, yn cynnwys yr Iseldiroedd a gwledydd Sgandinafia, yn wynebu’r un math o her a Chymru i ddenu myfyrwyr i astudio ac ysgrifennu yn eu mamieithoedd yn hytrach nag yn Saesneg. Mae’r nifer o draethodau meistr a doethuriaeth a ysgrifennir yn Saesneg, er enghraifft, wedi codi’n arwyddocaol mewn gwledydd y tu hwnt i Loegr yn y blynyddoedd diwethaf. Disgrifiwyd sut y mae amlieithrwydd yn ganlyniad i’r globaleiddio sydd ohoni – fel y twf yng ngrym Saesneg fel iaith ryngwladol – wrth i symudoledd poblogaethau’r byd gynyddu, ond hefyd (yn ddigon paradocsaidd, efallai) sut y gall fod yn ffordd o gryfhau ieithoedd lleiafrifol wrth annog eu defnydd mewn amryw o gyd-destunau ac ar amryw lefelau.

Rhyfeddais pa mor amlieithog yw’r traddodiad o gyfieithu gweithiau llenyddol i’r Gymraeg, testun papur Dewi Huw Morgan yn y sesiwn nesaf. Mae Dewi wrthi gyda Ned Thomas ar hyn o bryd yn casglu’r holl weithiau a gyfieithwyd o wahanol ieithoedd i’r Gymraeg yn yr ugeinfed ganrif at ei gilydd, er mwyn creu gwefan i’w rhestru a’u disgrifio. Hyd yn hyn mae’r prosiect, sy’n fenter ar y cyd rhwng Sefydliad Mercator a’r Coleg Cymraeg, wedi darganfod gweithiau mewn tua deugain o wahanol ieithoedd a gyfieithwyd i’r Gymraeg. Cyfoeth o lenyddiaeth, athroniaeth a diwinyddiaeth o bellafoedd Ewrop a’r byd a fydd yn adnodd pwysig i’r diwylliant Cymraeg. Tynnodd y gynhadledd at ei therfyn gyda disgrifiadau Tegau Andrews a Steve Morris o brosiectau cyfredol a phwysig eraill sy’n safoni termau Cymraeg addysg uwch ar hyd ystod eang o bynciau academaidd, ac sy’n datblygu corpws cyfoes cenedlaethol o’r Gymraeg. Bydd ffrwyth y prosiectau hyn ar gael ar-lein, ac yn tyfu dros y blynyddoedd sydd i ddod. Roedd yr ymateb brwd i’r ddau brosiect yn dystiolaeth bellach o’r bwrlwm a’r cyffro presennol ym myd addysg uwch Cymraeg a oedd mor amlwg trwy gydol y gynhadledd arbennig hon.

Llion Wigley