Mynychais Gynhadledd Genedlaethol y Gyfraith yn ddiweddar ar ddiwrnod o haul godidog ym Mae Caerdydd. Trefnwyd y gynhadledd yn adeilad hardd y Pierhead gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Roedd yr ystafell gynadledda yn orlawn o fyfyrwyr sy’n astudio’r Gyfraith yn rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd ym mhrifysgolion Cymru. Derbyniwyd y coffi a brecwast oedd ar gael yn awchus gan fod rhai o’r myfyrwyr wedi dal bws o Fangor am 5.00 y bore er mwyn cyrraedd mewn pryd! Doedd dim cyfle i bendwmpian yn sesiwn gyntaf y bore, sef gweithdy cyfieithu deddfwriaethol a arweiniwyd gan Richard Crowe, Prif Ieithydd Deddfwriaethol yn Llywodraeth Cymru. Heriodd y gynulleidfa i gymryd rhan mewn ymarfer gramadegol i roi blas o’r math o waith a wneir wrth lunio a chyfieithu deddfau. Dim ond hanner o’r camgymeriadau yn yr ymarfer llwyddais i’w nodi, felly cefais argraff glir o’r her sy’n gysylltiedig â’r gwaith!

Dilynwyd y gweithdy gan ddau bapur ymchwil diddorol dros ben: trafododd Dr Hayley Roberts, sy’n darlithio yn y Gyfraith trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, y cwestiwn o bwy sydd bia’r Titanic a chynigodd drosolwg o’r ymdrechion cyfreithiol i feddu’r llongddrylliad. Traddododd Kathy Griffiths, myfyrwraig PhD ym Mhrifysgol Caerdydd, bapur hynod o graff ar y cwestiwn cyfreithiol o berthnasau rhwng oedolion a phryd dylai’r gyfraith eu cydnabod, gan godi nifer o gwestiynau cymdeithasegol a moesegol pwysig yn y broses. Cyflwynodd dau gyfreithiwr ifanc Cymraeg sy’n gweithio i Captial Law yng Nghaerdydd sesiwn ymarferol a gwerthfawr wedi hynny ar sut i ymgeisio am gytundebau hyfforddi, cyn torri ar gyfer cinio blasus.

Daeth y dorf yn ôl  i glywed Gareth Howells yn disgrifio’r profiad o weithio yn Adran Gyfreithiol Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’r cyffro sydd ynghlwm wrth lunio deddfau newydd, hanesyddol i Gymru. Cododd y papurau ymchwil a ddilynodd sgwrs Gareth nifer o gwestiynau cyfoes pellach yn ymwneud â’r gyfraith, gwleidyddiaeth a chymdeithas. Disgrifiodd Ffion Llywelyn newidiadau’r llywodraeth bresennol i’r gyfraith o amgylch hawl perchentywyr i amddiffyn eu heiddo a pheryglon posib y newidiadau hynny. Bu Martin Jones yn ddigon dewr i ymrafael â’r cwestiwn cymhleth o gynorthwyo marwolaeth, pwnc llosg cyfredol i feddygon a’r gymdeithas ehangach. A chododd Steffan Evans sawl cwestiwn pwysig ynglŷn ag effaith datganoli ar y gyfraith a chymdeithas yng Nghymru trwy edrych mewn manylder ar y gyfundrefn tai cymdeithasol yng Nghymru a Lloegr. At ei gilydd roedd y papurau ymchwil a gyflwynwyd yn wreiddiol, yn ffres ac yn oleuedig, ac roedd y gynhadledd yn dystiolaeth arbennig o’r ymchwil rhagorol sy’n digwydd ym mhrifysgolion Cymru ar hyn o bryd trwy gyfrwng y Gymraeg a thrwy nawdd y Coleg Cymraeg.

Llion Wigley