Cynhaliwyd cynhadledd flynyddol Cymdeithas Cyhoeddwyr Annibynnol (IPG) yn agos i Rydychen wythnos diwethaf. Roedd y neuadd arddangos yn llawn o stondinau gyda llyfrau ar bob pwnc dan haul o’r cannoedd o gyhoeddwyr annibynnol a gynrychiolwyd yn y gynhadledd.  Ar ôl paned a chyfle i gael sgwrs, ymlwybrodd y dorf mewn i’r neuadd ddarlithio er mwyn clywed y siaradwr agoriadol, sef Pennaeth cwmni Faber & Faber, Stephen Page. Mewn darlith ddifyr a bywiog, trafododd Page y datblygiadau diweddaraf ym myd cyhoeddi annibynnol, fel twf y farchnad ar gyfer llyfrau electroneg ac adfywiad siopau llyfrau annibynnol. Yr argraff bositif iawn a greodd, fel y mwyafrif o’r siaradwyr yn y gynhadledd, oedd bod dyfodol y sector yn heriol ond yn ddisglair ac yn llawn cyffro.

Prif neges yr holl siaradwyr amrywiol oedd bod gyda’r llyfr print ddyfodol ac mai’r her i weisg annibynnol yw i weithio’n agosach gydag awduron a darllenwyr er mwyn sicrhau’r dyfodol hyn. Er bod 12% o’r holl lyfrau a werthwyd ym Mhrydain bellach yn llyfrau electroneg, mae’r ganran wedi aros yn weddol gyson dros y ddwy flynedd diwethaf, ar ôl codi’n sydyn iawn pan ymddangosodd teclynnau fel y Kindle gyntaf. Eglurodd un siaradwr, sy’n datblygu siop lyfrau ar-lein ar hyn o bryd a fydd yn arbenigo mewn gwerthu llyfrau o weisg annibynnol,  mai ysfa barhaol darllenwyr ar gyfer llyfrau print unigryw a nodedig sy’n rhannol gyfrifol am hyn. Mae’n amlwg felly bod darllenwyr yn gwerthfawrogi’r gwreiddioldeb a’r arbenigrwydd y gall gweisg annibynnol fel Gwasg Prifysgol Cymru gynnig.

Cafwyd sgyrsiau difyr hefyd ar bwysigrwydd cynllun a chloriau llyfrau, defnyddio cyfryngau cymdeithasol i hybu gwerthiant llyfrau a’r camau nesaf ym myd llyfrau electroneg. Erbyn diwedd y prynhawn roeddwn wedi dysgu llawer am y tueddiadau diweddaraf o fewn y byd cyhoeddi a gadewais y gynhadledd yn llawn brwdfrydedd ar gyfer yr her sydd i ddod.

Llion Wigley, Golygydd Comisiynu