Roedd cynhadledd ymchwil flynyddol y Coleg Cymraeg ar Fehefin y 19eg yn wledd o bapurau difyr a disglair ar draws ystod eang tu hwnt o ddisgyblaethau a phynciau. Myfyrwyr ymchwil a darlithwyr ifanc o fewn y Coleg a draddododd y papurau amrywiol ar ddiwrnod braf iawn o haf yng Ngregynog. Cychwynnodd Dr Ruth Wyn Williams y diwrnod trwy sôn am ei hymchwil cynhwysol gydag unigolion ag anabledd dysgu, sy’n anelu i’w cynnwys yn fwy ystyrlon a llawn mewn ymchwil gofal iechyd.  Fe’i dilynwyd gan bapur amserol a diddorol Kathy Griffiths, myfyrwraig PhD Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd, ar gydnabyddiaeth gyfreithiol o berthnasau rhwng oedolion. Gofynnodd y cwestiwn heriol pam fod priodas yn dal i gymryd blaenoriaeth cyfreithiol.

Dangosodd y cyferbyniad rhwng y pynciau a drafodwyd yn y tair sesiwn cyn cinio pa mor eang yw ystod y meysydd sy’n cael eu trin a thrafod yn y Gymraeg trwy gefnogaeth y Coleg: hanes amgueddfeydd gwerin Dwyrain Prwsia yn y cyfnod wedi’r Ail Ryfel Byd oedd pwnc Arddun Arwyn o Brifysgol Aberystwyth; cynllunio ‘laser donfedd ddeuol’ sy’n gallu allyrru goleuni ar ddwy donfedd wahanol ar yr un pryd oedd dan sylw Daniel Roberts o Ysgol Peirianneg Electronig, Prifysgol Bangor; a’r cysyniad o lythrennedd corfforol a’r defnydd ohono mewn ysgolion cyfun cyfrwng Cymraeg oedd testun trafod Lowri Edwards o Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd. Er bod union natur pwnc Daniel Roberts tu hwnt i’m dealltwriaeth wyddonol gyfyng i, llwyddodd i gyflwyno’i drafodaeth mewn ffordd hygyrch a chlir gan ddefnyddio cyfoeth o derminoleg Cymraeg dyfeisgar a phwrpasol yn y broses. Yr oedd hyn yr un mor wir am eglurhad Lowri Edwards o’r cysyniad cymharol newydd (i mi, beth bynnag) o lythrennedd corfforol.

Cafodd chwe myfyriwr ôl-raddedig o wahanol brifysgolion yng Nghymru gyfle i arddangos a thrafod ffrwyth eu hymchwil mewn sesiwn Posteri Ymchwil ar ôl cinio. Unwaith eto, roedd amrywiaeth a pherthnasedd y pynciau dan sylw yn amlwg iawn, o astudiaeth gymharol o ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg mewn ardal ddifreintiedig i astudiaeth o lifoedd gwrthgyferbyniol mewn ffilament ar yr haul. Un o uchafbwyntiau’r diwrnod oedd papur Mair Lenny o Brifysgol Bangor yn sesiwn olaf y prynhawn ar y ddelwedd o’r anabl mewn llenyddiaeth Gymraeg. Cynigodd ddehongliad treiddgar a gwreiddiol tu hwnt o gwestiwn a esgeuluswyd efallai hyd yma o fewn cyd-destun Cymraeg. Roedd ei phapur, fel gweddill y papurau a gyflwynwyd eleni, yn dystiolaeth huawdl o bwysigrwydd a gwerth yr ymchwil trwy gyfrwng y Gymraeg sy’n cael ei annog a’i hyrwyddo gan waith y Coleg.

Llion Wigley