Bydd Gwasg Prifysgol Cymru yn cymryd rhan yn y cynadleddau canlynol yn ystod Chwefror:

3ydd Bydd Robin Grossmann yn mynychu digwyddiad mae Prifysgol Caerdydd wedi trefnu er mwyn lansio llyfrau a ysgrifennwyd gan staff Ysgol y Gymraeg, yn cynnwys tri llyfr a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru sef Jaitacht, Parents Personalities and Power a Pe gallwn mi luniwn lythyr.

26-28ain Bydd Catrin Harries a Llion Wigley yn mynychu cynhadledd flynyddol yr Urdd Cyhoeddwyr Annibynnol yn Rhydychen, lle bydd gweithwyr proffesiynol yn y maes yn cwrdd i drafod eu busnesau mewn gweithdai arbenigol ac i glywed siaradwyr blaenllaw yn trafod materion pwysig cyfredol ym myd cyhoeddi.

Yn ogystal â mynychu’r uchod, bydd teitlau GPC yn cael eu harddangos yn y lansiad LGBT yn y Senedd, i ddathlu Mis Hanes LGBT yng Nghymru ar Chwefror 19eg. Bydd ein cydweithwyr yng Ngwasg Prifysgol Chicago yn ein cynrychioli hefyd yng nghynhadledd y Gymdeithas Athronyddol Americanaidd yn Chicago ar y 26ain.