Bydd staff Gwasg Prifysgol Cymru yn mynychu’r cynadleddau canlynol yn ystod Ebrill:

3 – 4 Ebrill Bydd Catherine Jenkins yn mynychu cynhadledd Cymdeithas Astudiaethau America Ladin (SLAS) yn Llundain, lle fydd yn gwerthu llyfrau o’r gyfres Iberian and American Studies ac yn rhwydweithio ag awduron a chynadleddwyr.

8 – 10 Ebrill Bydd staff yn mynychu  Ffair Lyfrau blynyddol Llundain ac yn cwrdd â chynrychiolwyr gwerthiant a phartneriaid busnes, yn ogystal ag arddangos ein teitlau diweddaraf.

11 – 13 Ebrill Bydd Llion Wigley yn mynychu Cynhadledd Flynyddol Cymdeithas Llên Saesneg Cymru yn Neuadd Gregynog, Y Drenewydd, er mwyn cwrdd ag awduron a mynd i sesiynau. Bydd teitlau’r Wasg hefyd ar werth trwy Gyngor Llyfrau Cymru yn ystod y gynhadledd.

28 Ebrill– 1 Mai Bydd Eleri Lloyd-Cresci yn mynychu Cynhadledd Werthiant Chicago, sy’n cael ei gynnal pob dwy flynedd, er mwyn cyflwyno ein teitlau newydd ar gyfer marchnad yr Hydref yn America.

Yn ogystal â’r uchod, bydd GPC hefyd yn cael ei gynrychioli yn y digwyddiadau isod:

4 – 6 Ebrill Cyfarfod Ieithyddion Ifanc, Prifysgol Adam Mickiewicz, Poznan – bydd taflenni ar gyfer ein Journal of Celtic Linguistics yn cael eu dosbarthu yn ystod y cyfarfod.

8 – 10 Ebrill Bydd un o’n hawduron, Ben Curtis, yn mynychu Cynhadledd Flynyddol y Gymdeithas Hanes Cymdeithasol  ym Mhrifysgol Northumbria, Newcastle, lle bydd gwybodaeth am ei lyfr, South Wales Miners, yn cael ei gynnwys ym mhecynnau’r gynulleidfa.

10 Ebrill Bydd Thomas Glyn Watkin yn mynychu Cynhadledd Prosiect Cyfraith Gyhoeddus Cymu ym Mhrifysgol Caerdydd, lle bydd yn cyflwyno cyfres newydd sbon GPC, The Public Law of Wales.

10 Ebrill cynhelir lansiad From Cradle to the Coalmine  yn Big Pit, Aberafan.

11 Ebrill Bydd Ben Curtis yn mynychu digwyddiad yng Nghlwb Rygbi Pontypridd a drefnir gan Undeb Cenedlaethol y Glowyr (NUM) De Cymru er mwyn coffáu trideg mlynedd ers streic y glowyr 1984-5. Bydd Siop y Ganolfan yn mynychu’r digwyddiad hefyd er mwyn gwerthu copïau o The South Wales Miners ar ein rhan.

14 – 16 Ebrill Cynhelir cynhadledd Cymdeithas Ysbaenig Prydain Fawr ac Iwerddon yng Ngalway, a bydd ein catalog Iberian and Latin American Studies yn cael ei gynnwys ym mhecynnau’r gynulleidfa.

22 – 24 Ebrill Cynhelir cynhadledd ar Feudwyon Canol Oesol yn eu Cymunedau yn Neuadd Gregynog, wedi ei drefnu gan Brifysgol Abertawe. Bydd copïau o’n teitlau perthnasol ar werth trwy gydol y gynhadledd.