Amserlen Digwyddiadau Gwasg Prifysgol Cymru

Eisteddfod Genedlaethol 2014

 

Dydd Llun y 4ydd

 

4:00yp  Bydd yr Athro Densil Morgan yn lansio ei lyfr newydd Thomas Charles o’r Bala ar stondin Prifysgol Cymru.

 

Dydd Mawrth y 5ed

 

11:00yb  Ymunwch â Mair Rees ym mhabell Merched y Wawr i drafod ei llyfr newydd Y Llawes Goch a’r Faneg Wen.

12:45yp  Dewch i glywed Russell Davies yn sgwrsio gyda Catrin Beard am hanes cudd Sir Gaerfyrddin rhwng 1870–1920.

2:00yb  Bydd Rhiannon Marks yn trafod y broses greadigol o ddarllen a dehongli llenyddiaeth gyda Menna Elfyn.

 

Dydd Mercher y 6ed

 

12:00yp  Arddangosfa o luniau o’r llyfr newydd Castell Caerfyrddin a chyflwyniad gan arbenigwr o Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed.

 

Dydd Gwener yr 8fed

 

12:00yb  Cynhelir sesiwn cwestiwn ac ateb ar hanes, gwleidyddiaeth a datganoli gyda’r Arglwydd Kenneth O. Morgan.

2:00yp  Bydd Gwyn Griffiths yn lansio ei lyfr newydd Henry Richard: Heddychwr a Gwladgarwr yn dilyn ei sgwrs ym Mhabell y Cymdeithasau 2 gydag Academi Heddwch Cymru.