Cyrhaeddais faes yr Eisteddfod ar fore dydd Sadwrn a thrwy lwc roedd yr haul yn tywynnu! Arhosodd y tywydd yn braf am ran fwyaf o’r wythnos, er i ni gael sawl cawod drom iawn ar ddyddiau Llun a Mawrth. Cyfrannodd yr haul yn sicr at yr awyrgylch hamddenol a thesog ar y maes eleni. Roedd digonedd o ddewis o sgyrsiau, darlithiau a thrafodaethau i’w mynychu yn y Babell Lên, y Lolfa Lên neu ym mhebyll y cymdeithasau trwy gydol yr Eisteddfod, a’r broblem fwyaf oedd ceisio pigo beth i fynd iddo a beth i fethu! Roeddwn yn hynod o falch imi benderfynu mynd i wrando ar Emyr Llywelyn yn siarad am Dewi Emrys yn y Babell Lên. Traddododd ddarlith wefreiddiol ar hanes trist y bardd o Sir Benfro, gan bwysleisio’r cariad a’r cynhesrwydd a deimlwyd tuag ato ym mhobman yr aeth, er gwaethaf yr anawsterau a’r problemau a wynebodd ar hyd y daith.  Clywais Russell Davies yn trafod ei lyfr arbennig am hanes cudd Sir Gaerfyrddin, Secret Sins, gyda Catrin Beard yn yr un babell yn gynharach yn yr wythnos, a daeth ei straeon difyr am arferion caru a ‘phechodau’ pobl yr ardal a gwên i sawl wyneb yn y dorf.

Trafodwyd materion mwy cyfoes mewn sesiynau a drefnwyd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru a’r Sefydliad Materion Cymreig, fel yr ‘archgarchar’ mae’r llywodraeth yn benderfynol o’i godi yn Wrecsam yn y blynyddoedd nesaf. Dadleuodd yr Aelod Seneddol, Elfyn Llwyd, yn bwerus yn erbyn adeiladu carchar anferth o’r fath, a chafwyd trafodaeth fywiog wrth i Gomisiynydd Heddlu Gogledd Cymru, Syr Winston Roddick, ddadlau’n ôl bod dirfawr angen carchar o’r fath yn yr ardal. Ymdrin â phoblogrwydd diweddar UKIP ymhlith etholwyr Prydain ac effaith hyn oll ar Gymru a wnaeth Simon Brooks yn narlith y Sefydliad Materion Cymreig. Adeiladodd ddadl rymus dros bwysigrwydd creu model newydd o ddinasyddiaeth Gymreig a all wrthsefyll effeithiau gwleidyddol a chymdeithasol poblogrwydd UKIP a’i debyg.

Daethpwyd â thri o awduron mwyaf blaenllaw ac adnabyddus Cymru at ei gilydd – Angharad Tomos, Menna Elfyn a Jane Aaron –  ar gyfer sesiwn i lansio llyfr Mair Rees, Y Llawes Goch a’r Faneg Wen, ym mhabell Merched y Wawr ar y dydd Mawrth. Mae’r gyfrol yn archwilio’r ffordd y mae’r corff benywaidd wedi cael ei bortreadu mewn llenyddiaeth Gymraeg yn yr ugeinfed ganrif, ac mae gweithiau Angharad Tomos a Menna Elfyn ymhlith y rhai a drafodir ynddi. Cynigiodd y ddwy eu hymatebion diddorol i’r gyfrol  o flaen cynulleidfa sylweddol. Cawsom y fraint o gynnal trafodaeth rhwng Paul O’Leary a’r Arglwydd Kenneth O. Morgan – sydd wedi ysgrifennu cyfrol newydd i’r Wasg – yn ein pabell ar ddydd Gwener. Siaradodd yr Arglwydd Morgan mewn Cymraeg rhugl am ei lyfr newydd, Revolution to Devolution: Reflections on Welsh Democracy, ac am ei gyfoeth o brofiadau fel un o haneswyr mwyaf arloesol a threiddgar Cymru, a bellach fel gwleidydd yn Nhŷ’r Arglwyddi. Un o sesiynau gorau eraill yr wythnos oedd cyfarfod yr Academi Heddwch Cymreig arfaethedig ar brynhawn dydd Gwener. Cyfrannodd nifer o siaradwyr grymus – yn cynnwys Mererid Hopwood, Robin Gwyndaf a Gwyn Griffiths, awdur cyfrol ddiweddar i’r Wasg ar yr heddychwr mawr o Dregaron, Henry Richard – i ddadlau’n gryf dros bwysigrwydd sefydlu academi o’r fath yng Nghymru, a daeth Dafydd Iwan ei hun â’r sesiwn i  ddiweddglo ysgytwol gyda chân ar wallgofrwydd rhyfel. Ffordd addas iawn i goroni wythnos liwgar a chyffrous ar faes yr Eisteddfod!

Llion Wigley