Dychwelodd Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr i Barc prydferth Dinefwr yn Llandeilo am yr ail dro dros benwythnos 20-22 Mehefin. Mwynhaodd yr ymwelwyr benwythnos llawn llenyddiaeth, cerddoriaeth a bwyd blasus mewn heulwen braf.

 

Roeddwn yn ddigon ffodus i gynrychioli Gwasg Prifysgol Cymru yn yr Ŵyl gyda stondin, a mwynheais siarad â chwsmeriaid wrth werthfawrogi rhywfaint o adloniant o’r llwyfan Gorwelion gerllaw. Rhannodd y Wasg ofod gyda Planet, Ruth Thorp, a Creative Thorp ymhlith eraill, mewn hen gegin yng nghefn y prif Dŷ Newton sy’n edrych dros y cwrt. Ar ôl benthyg het gan Mandy o Gardd-y-Ddraig i arbed fy hun o drawiad haul, ac wedi plastro yn eli haul, symudais fy stondin allan i’r haul ar ddydd Sul, lle medrwn gael gwell golwg ar y dathliadau a siarad â chwsmeriaid nad oedd wedi mentro tu mewn; llwyddais i werthu rhai llyfrau hefyd!

 

Ac felly pasiodd penwythnos pleserus mewn lleoliad hardd, yn dathlu’r doniau sydd gyda Chymru i’w gynnig. Rwy’n edrych ymlaen at ddychwelyd tro nesaf gobeithio i arddangos teitlau’r Wasg.

 

Catrin Harries – Cynorthwydd Gwerthiant a Marchnata

http://www.ruththorpstudio.co.uk/

http://www.creativethorp.com/

http://www.dragons-garden.com/

http://www.planetmagazine.org.uk/cymraeg/

http://www.stwff.net/

http://www.francescakay.co.uk/

http://www.dinefwrliteraturefestival.co.uk/cy/