Cyn diwedd blwyddyn ei ganmlwyddiant y llynedd, bu R. S. Thomas yn ei lordio hi yn Llundain.

Ar nos Lun, 2 Rhagfyr, cyflwynwyd darlith gan yr Arglwydd Gowrie ar ‘The Witness of R. S. Thomas’. Daliodd Grey Gowrie sawl swydd yn y Cabinet o dan Margaret Thatcher, a bu’n gadeirydd ar Sotheby’s a Chyngor Celfyddydau Lloegr, ac hefyd yn gynorthwyydd personol i Robert Lowell ar un adeg, ac mae’n fardd cyhoeddedig ei hun. Daeth yn ffrind ac yn edmygydd o R. S. Thomas yn ei flynyddoedd olaf, ac yn ei ddarlith gwnaeth ddefnydd o’i ddealltwriaeth fel bardd i gymryd golwg ar waith cyd-fardd.

Roedd lleoliad y ddarlith, sef neuaddau mawreddog yr Academi Brydeinig, gerllaw’r Mall, yn werth ymweliad o ran eu hunain. Trefnwyd y digwyddiad (rhad ac am ddim) ar y cyd gan yr Academi, Cymdeithas Ddysgedig Cymru a CREW Prifysgol Abertawe, a chyn-Archesgob Caergaint, Dr Rowan Williams, yntau’n fardd cyhoeddedig, oedd yn cadeirio.

I’r sawl a fethodd y daith i Lundain gyda First Great Western i wrando’r ddarlith o dan nenfwd uchel a chanhwyllyron addurnedig yr Academi, cafwyd cyfle i fynychu achlysur yng Nghanolfan Taliesin Abertawe ar nos Wener, 1 Tachwedd, a chlywed Dr Rowan Williams ac Archesgob Cymru, Barry Morgan, yn trafod gweledigaeth grefyddol R. S. Thomas.

M. Wynn Thomas

Cliciwch ar y dolenni isod i wylio fideos o’r ddau ddigwyddiad:

01.11.13  Dr Rowan Williams, Yr Athro M. Wynn Thomas ac Archesgob Cymru, Barry Morgan, yn trafod gweledigaeth grefyddol R. S. Thomas (yn Saesneg)

02.12.13  Arglwydd Gowrie ar ‘The Witness of R. S. Thomas’ (yn Saesneg)