Gwnaeth HEFCE y cyhoeddiad canlynol yn ei llythyr newyddion ar y 6 Chwefror; cyfeiriwch at wefan HEFC ar gyfer manylion pellach.
“Wrth baratoi ein cynlluniau ar gyfer mynediad agored a’r Fframwaith Ymchwil Addysg Uwch (REF) nesaf, gwnaethom dderbyn cyngor clir iawn nad yw’r byd cyhoeddi monograffau yn barod eto i gefnogi anghenion mynediad agored. Rydym wedi gwrando ar y cyngor hwn, ac yn cynnig na fydd angen i fonograffau gael eu cyhoeddi mewn ffurf mynediad agored er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y REF nesaf.”