Roedd y dyrfa gymysg o fyfyrwyr ac academyddion o bob oedran a ddaeth ynghyd ar gyfer y Seithfed Colocwiwm ar Gymru’r Oesoedd Canol ym Mhrifysgol Bangor penwythnos diwethaf yn dystiolaeth huawdl o fywiogrwydd y maes yng Nghymru ar hyn o bryd. Diwrnod yn unig o’r gynhadledd y llwyddais i’w fynychu ond roedd hwnnw’n ddiwrnod gorlawn o  bapurau a darlithiau difyr.

Dechreuodd Alex Woolf o Brifysgol St Andrews y diwrnod gyda darlith ddadlennol ar Chwedl a Hanes yng Ngwynedd Gynnar. Ar ôl cyfle i gael paned a sgwrs yn lleoliad mawreddog Neuadd Powis, gyda murluniau trawiadol Ed Povey o’n cwmpas, cynhaliwyd y sesiwn gyntaf o bapurau ymchwil. Cyflwynodd Dr Sue Johns ei hadlewyrchiadau ar rai o ganfyddiadau diweddaraf y prosiect ymchwil sylweddol ar seliau o Gymru’r Oesoedd Canol mae’n ran ohono, gan ganolbwyntio’n arbennig ar yr hyn mae seliau personol yn datgelu am hunaniaeth, rhywedd ac arglwyddiaeth yn y cyfnod.

Prosiect ymchwil arall sylweddol a chyfredol oedd testun papur David Parsons, sef prosiect y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd ar seintiau Cymru. Disgrifiodd Parsons y wefan sydd wedi cael ei ddatblygu fel rhan o’r prosiect ar gyfer casglu gwybodaeth a deunyddiau am yr amrywiol seintiau at ei gilydd mewn un man cyfleus a chynhwysfawr. Nid sant ond cawres oedd pwnc papur arall y sesiwn, sef ymdriniaeth liwgar Emma Cavell (Prifysgol Leeds) o’r berthynas rhwng Matilda de St Valery a’r Cymry yn niwedd yr unfed ganrif ar ddeg a dechrau’r ddeuddegfed. Dangosodd Cavell sut y disgrifiwyd y wraig fonheddig anghyffreddin a beiddgar hon fel cawres ac fel gwrach dros y cenedlaethau ers ei marwolaeth, yn rhannol oherwydd ei pharodrwydd i gymryd yr awenau mewn brwydrau yn erbyn y Cymry yn ardal y Mers ar ran ei gŵr, Gwilym Brewys, mor wahanol i’r hyn oedd yn dderbyniol o fewn rôl gymdeithasol ddisgwyliedig menywod – nid yn yr Oesoedd Canol eu hunain, ond yn y canrifoedd a’u dilynodd.

Agwedd ddiddorol ar hanes cyfreithiol Cymru yn yr Oesoedd Canol oedd pwnc papur Sara Elin Roberts ar ôl cinio. Trafododd yr hyn mae cwynion neu ‘plaints’ cyfreithiol o Gymru yn datgelu nid yn unig am gysylltiadau rhwng y Cymry a’r Saeson ar y ffin rhwng y ddwy wlad, ond hefyd am ddatblygiad y gyfundrefn gyfreithiol Gymreig cyn y Goncwest Edwardaidd. Traddododd Rhian Andrews o Brifysgol y Frenhines, Belfast, ddarlith arbennig ar gerdd Llywarch Brydydd y Moch i Rhys Gryg o’r Deheubarth, gan ddadansoddi’n fanwl sut mae’r gerdd yn datgelu rôl y bardd fel llysgennad ar ran ei noddwr, Llywelyn Fawr. I gloi’r diwrnod, cafwyd papurau treiddgar gan Rhun Emlyn, Georgia Henley a Owain Wyn Jones ar bynciau’n amrywio o addysg a dysg yn esgobaeth Tyddewi yn yr Oesoedd Canol diweddar i’r croniclau Cymreig pwysig sydd ar gael yn llyfrgell eglwys gadeiriol Caerwysg. Mae dyfodol ein gorffennol yng Nghymru yn amlwg mewn dwylo diogel!

Llion Wigley