Studies in Welsh History

Sefydlwyd y gyfres hon ym 1977 a’i phrif nod yw gwasanaethu ysgolheictod hanesyddol ac annog astudiaeth ym maes hanes Cymru. Mae cyfrolau’r gyfres yn cynnwys gwaith ymchwil ar hanes gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd Cymru.

Golygyddion y Gyfres: Yr Athro Ralph Griffiths, Prifysgol Abertawe; yr Athro Chris Williams, Prifysgol Caerdydd; Dr Eryn White, Prifysgol Aberystwyth.

Hoffech chi ysgrifennu ar gyfer y gyfres hon? Cysylltwch â Chris Richards, Cynorthwydd Comisiynu a Golygyddol GPC, gyda’ch cais, gan gynnwys crynodeb fer o’r gwaith arfaethedig: chris.richards@press.wales.ac.uk. I ddarllen mwy am y wybodaeth rydym ei angen wrth wneud cynnig am lyfr, gweler ein tudalen ‘Cyhoeddi gyda GPC’.