5 Hydref 2014 oedd achlysur daucanmlwyddiant marw Thomas Charles o’r Bala. Gwych o beth fod pobl y Bala wedi dod ynghyd, gyda Chymdeithas y Beibl, i nodi’r digwyddiad trwy agor canolfan i ddathlu cyfraniad y dyn mawr i fywyd Cymru a’r byd. Eglwys Beuno Sant ar lan Llyn Tegid yw’r man lle bydd etifeddiaeth Charles yn cael ei nodi, a hynny trwy’r arddangosfa barhaol ‘Byd Mary Jones’. Mary – neu Mari – Jones, wrth gwrs, oedd yr eneth ifanc a gerddodd yn droednoeth bob cam o Lanfihangel-y-Pennant i’r Bala yn 1800 er mwyn prynu ei chopi ei hun o’r Beibl trwy law Thomas Charles. Mae stori Mari wedi mynd drwy’r byd, ond mae stori Charles yntau yn rhyfeddod. Yn frodor o Sir Gaerfyrddin a  ymgartrefodd yn Sir Feirionnydd, bu’n gysylltiedig â hanes llythrennedd trwy fudiad yr ysgolion Sul, addysg oedolion, ysgolheictod beiblaidd trwy gyfrwng ei lawlyfr enwog Y Geiriadur, heb sôn am lywio’r mudiad Methodistaidd, mudiad a oedd eisoes yn rym gwirioneddol ym mywyd y genedl. Sonnir am yr holl bethau hyn yn y gyfrol Thomas Charles o’r Bala a lawnsiwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr ym Mis Awst. Ym mynwent Llanycil y mae bedd Thomas Chales (a bedd Lewis Edwards yn ei ymyl), a bellach mae’r eglwys sy’n ei gysgodi yn gartref ar gyfer arddangosfa gyfoethog odiaeth. Ewch i weld yr arddangosfa, a pheidiwch ag anghofio darllen y gyfrol!

D. Densil Morgan