Iberian and Latin American Studies

Nod Iberian and Latin American Studies yw darparu dull cyd-destunol a disgyblaethol o astudio’r byd Sbaenaidd a’r byd Portiwgalaidd ar draws amrywiaeth eang o gynnyrch diwylliannol gan gynnwys llenyddiaeth, ffilm, cerddoriaeth, dawns a chwaraeon, yn y Sbaeneg, y Bortiwgaleg, y Fasgeg, y Gatalaneg, yr Aliseg ac ieithoedd brodorol America Ladin. Mae’r gyfres hefyd yn ceisio ymdrin â hanes a gwleidyddiaeth yn ogystal ag astudiaethau diwylliannol trwy archwilio’r sefyllfa newidiol o ran hunaniaethau rhyw, rhywiol, hiliol ac ôl-drefedigaethol yn y rhanbarthau hynny.

Golygyddion y Gyfres: Yr Athro David George, Prifysgol Abertawe a’r Athro Paul Garner, Prifysgol Leeds.

Hoffech chi ysgrifennu ar gyfer y gyfres hon? Cysylltwch â Chris Richards, Cynorthwydd Comisiynu a Golygyddol GPC, gyda’ch cais, gan gynnwys crynodeb fer o’r gwaith arfaethedig: chris.richards@press.wales.ac.uk. I ddarllen mwy am y wybodaeth rydym ei angen wrth wneud cynnig am lyfr, gweler ein tudalen ‘Cyhoeddi gyda GPC’.