Mae’r gyfres newydd amlddisgyblaethol hon yn edrych ar nodweddion ac effeithiau gwahaniaeth o ran rhywedd yng Nghymru, fel yr effeithiodd ar fywydau yn y gorffennol a’r ffordd y mae’n dal i siapio profiadau cyfoes. Mae cysyniadau gwrywdod a benywdod a luniwyd yn gymdeithasol yn siapio ac yn dylanwadu ar bob agwedd ar fywydau unigolion; profiadau mewn cyflogaeth, mewn addysg, mewn diwylliant a gwleidyddiaeth, yn ogystal â mewn perthnasoedd personol. Mae rhywedd hefyd yn croestorri gyda hunaniaethau eraill gan gynnwys hil, dosbarth, (an)abledd, rhywioldeb a chenedl i fframio profiadau a phortreadau o unigolion a grwpiau. Hyd yma, mae’r gyfres wedi cyhoeddi cyfraniadau pwysig sy’n ymdrin â’r materion hyn mewn llenyddiaeth, astudiaethau cymdeithasol a hanes gan gyfoethogi’r maes academaidd sydd ar gynnydd. Yn arbennig, byddai’r golygyddion yn croesawu astudiaethau arloesol sy’n ymgysylltu â damcaniaethau cyfoes am rywedd, hunaniaeth a chroestoriadedd yn ymwneud â Chymru yn ei holl amrywiaeth.
Golygyddion y Gyfres: Dr Dawn Mannay, Prifysgol Caerdydd; Dr Rhiannon Marks, Prifysgol Caerdydd; Athro Diana Wallace, Prifysgol De Cymru; Dr Stephanie Ward, Prifysgol Caerdydd; Dr Sian Rhiannon Williams, Prifysgol Metropolitan Caerdydd.
Hoffech chi ysgrifennu ar gyfer y gyfres hon? Cysylltwch â Chris Richards, Cynorthwydd Comisiynu a Golygyddol GPC, gyda’ch cais, gan gynnwys crynodeb fer o’r gwaith arfaethedig: chris.richards@press.wales.ac.uk. I ddarllen mwy am y wybodaeth rydym ei angen wrth wneud cynnig am lyfr, gweler ein tudalen Cyhoeddi gyda GPC.