Seithfed Colocwiwm Bangor ar Gymru’r Oesoedd Canol

Roedd y dyrfa gymysg o fyfyrwyr ac academyddion o bob oedran a ddaeth ynghyd ar gyfer y Seithfed Colocwiwm ar Gymru’r Oesoedd Canol ym Mhrifysgol Bangor penwythnos diwethaf yn dystiolaeth huawdl o fywiogrwydd y maes yng Nghymru ar hyn o bryd. Diwrnod yn unig o’r gynhadledd y llwyddais i’w fynychu ond roedd hwnnw’n ddiwrnod gorlawn