Eisteddfod Genedlaethol 2017

Bu Gwasg Prifysgol Cymru yn bresennol ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol – a gynhaliwyd ym Modedern, Sir Fôn rhwng y 4ydd a’r 12fed o Awst – unwaith eto eleni. Agorodd y Wasg siop am yr wythnos ym mhabell Prifysgol Cymru, gyda channoedd o lyfrau Cymraeg a Chymreig ar werth. Roedd llawer o’n hawduron hefyd ar

Darllen mwy

Y Blaned Mawrth yn Siarad Iaith y Bobl

Gwasg Prifysgol Cymru’n cyfrannu at gyhoeddiad gan gyrch gweithredol NASA sy’n rhoi sylw i’r Gymraeg Gyda delweddau artistig o lechweddau sy’n erydu, crateri ardrawiadau, tirweddau pegynol anghyffredin, eirlithriadau a lluniau rhyfeddol o ddisgyniad chwilwyr fel y Phoenix Lander a Labordy Gwyddoniaeth Mawrth, mae cyhoeddiad newydd gan Wasg Prifysgol Arizona yn gwahodd y darllenydd ar daith

Darllen mwy

Cyfres o dan sylw: Gwyddonwyr Cymru

Mae Gwyddonwyr Cymru yn cynnig llyfrau ysgolheigaidd wedi’u hysgrifennu mewn ffordd hygyrch am wyddonwyr o Gymru sydd wedi gwneud cyfraniad mawr ac arwyddocaol, yn y gorffennol a’r presennol, at ddatblygiadau ac arloesedd gwyddonol. Bu tueddiad yn hanesyddol i gyfyngu’r syniad o ddiwylliant Cymreig i’r hyn a gynhyrchwyd gan ei hawduron, ei beirdd, ei cherddorion a’i

Darllen mwy

Cyfres o dan sylw: Safbwyntiau

Cyfres yw hon sy’n cynnig golwg annisgwyl a dadlennol ar rai o bynciau canolog astudiaethau gwleidyddol a diwylliannol Cymru a thu hwnt; o ffasgaeth i sosialaeth, o ethnigrwydd i rywioldeb, ac o iaith i grefydd. Pam na fu Cymru: Methiant Cenedlaetholdeb Cymraeg Awdur: Simon Brooks Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, Oes Cenedlaetholdeb, llwyddodd

Darllen mwy

Performing Wales: People, Memory and Place

Gan Lisa Lewis, awdur Performing Wales: People, Memory and Place. Beth mae trafod diwylliant yn nhermau perfformiad yn ei gynnig i ni? Sut mae’r fath ddadansoddiad yn ein helpu i ddeall a chyfryngu’r profiad o ddiwylliant cyfrwng Cymraeg? Yn Performing Wales: People, Memory and Place ceir trafodaeth ar bedair agwedd ar ymarfer diwylliannol – yn

Darllen mwy

Llongyfarchiadau M. Wynn Thomas

Hoffai’r Wasg longyfarch yr Athro M. Wynn Thomas ar ennill Gwobr Ffeithiol Greadigol Llyfr y Flwyddyn 2018 gyda’i gyfrol All That Is Wales: The Collected Essays of M. Wynn Thomas. Cyflwynir gwobrau Llyfr y Flwyddyn yn flynyddol i’r gweithiau gorau yn y Gymraeg a’r Saesneg, a chyhoeddwyd yr enillwyr mewn seremoni wobrwyo yn y Tramshed

Darllen mwy

Meic Stephens (1938-2018)

Gwnaeth Meic Stephens, a fu farw yr wythnos hon, gyfraniad enfawr ac hollbwysig i hanes Gwasg Prifysgol Cymru fel awdur a golygydd. Ynghyd ag R. Brinley Jones, sylfaenodd Meic y gyfres arloesol ‘Writers of Wales’ ym 1970, a bu’n olygydd arni am dros ddeugain mlynedd – cyfnod a welodd gyhoeddi dros gant o gyfrolau. Ymhlith

Darllen mwy

Swyddfa newydd GPC: Cofrestrfa’r Brifysgol

O’r 23ain o Awst 2018, fe fydd Gwasg Prifysgol Cymru wedi’i leoli yn Adeilad Cofrestrfa Prifysgol Cymru ym Mharc Cathays. Ein cyfeiriad newydd yw: Gwasg Prifysgol Cymru Cofrestrfa’r Brifysgol Rhodfa’r Brenin Edward VII Caerdydd CF10 3NS Ar gyfer ymholiadau cyffredinol: Ffôn: 44 (0) 29 2049 6899 E-bost: gwasg@gwasg.cymru.ac.uk Adeiladwyd Cofrestrfa’r Brifysgol yn 1903, yr adeilad

Darllen mwy

Cymraeg yn y Gweithle

Gan Rhiannon Heledd Williams, awdur Cymraeg yn y Gweithle. Pan astudiais i am radd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth dros ddegawd yn ôl, doedd dim sôn am ‘Gymraeg Proffesiynol’ na ‘Chymraeg yn y gweithle.’ Roedd yr un peth yn wir am brifysgolion eraill yng Nghymru. Ond yn y blynyddoedd diweddar, wrth i adrannau wynebu argyfwng

Darllen mwy

Llyfr y Flwyddyn 2019

Mae Gwasg Prifysgol Cymru yn falch o dderbyn dau enwebiad ar gyfer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2019. Llongyfarchiadau i’n hawduron Gethin Matthews a Lisa Sheppard, sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer Categori Ffeithiol Greadigol gyda’u cyfrolau. Y Gymru ‘Ddu’ a’r Ddalen ‘Wen’: Aralledd ac Amlddiwylliannedd mewn Ffuglen Gymreig, er 1990 gan Lisa Sheppard Dyma’r gyfrol Gymraeg

Darllen mwy

Cymdogion ar wahân: Barddoniaeth gynnar yn Gymraeg ac yn Saesneg

Gan David Callander, awdur Dissonant Neighbours: Narrative Progress in Early Welsh and English Poetry. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ysgolheigion wedi dangos diddordeb cynyddol yn amlieithrwydd yr Oesoedd Canol. Mae astudio llyfrau a thestunau amlieithog, sy’n nodwedd gyffredin ddigon o lawysgrifau canoloesol, wedi esgor ar lawer o waith newydd a chyffrous, ac wedi braenaru’r tir ar gyfer

Darllen mwy

Golygyddion newydd Cylchgrawn Addysg Cymru

Pleser yw cyhoeddi ein bod wedi cadarnhau tîm Golygyddion Cylchgrawn newydd Cylchgrawn Addysg Cymru: Gary Beauchamp o Brifysgol Metropolitan Caerdydd, Thomas Crick o Brifysgol Abertawe ac Enlli Thomas o Brifysgol Bangor. Daw ein Golygyddion newydd â chyfoeth o brofiad addysgol, ac mae gan bob un hanes cryf mewn ymchwil addysgol a gyda’u harbenigedd cyfunol, eu

Darllen mwy

Cyfri’n Cewri: Hanes Mawrion ein Mathemateg

Gareth Ffowc Roberts yn cyflwyno ei lyfr newydd Cyfri’n Cewri: Hanes Mawrion ein Mathemateg. Sut mae diffinio ein diwylliant fel Cymry? Ai fel gwlad y gân yn unig? Un o amcanion y gyfrol hon yw ehangu ein diffiniad i gwmpasu’r gwyddorau yn gyffredinol, a mathemateg yn benodol. Sawl canwr Cymraeg neu Gymreig fedrwch chi eu

Darllen mwy

Bwrdd Ymghynghorol newydd i Gylchgrawn Addysg Cymru

Rydym yn hynd o falch i gyhoeddi’r Bwrdd Ymghynghorol newydd ar gyfer Cylchgrawn Addysg Cymru. Ffurfir y Bwrdd Ymgynghorol o gynrychiolwyr allweddol ar hyd y sector addysg yng Nghymru, a byddant yn chwarae rhan bwysig mewn eirioli ar ran y Cylchgrawn yn ei gyfnod Mynediad Agored newydd, gan ymwneud yn agos â chyfeiriad y Cylchgrawn

Darllen mwy

Ysbryd Morgan: Adferiad y Meddwl Cymreig

Huw L. Williams yn cyflwyno ei lyfr newydd Ysbryd Morgan: Adferiad y Meddwl Cymreig. Man cychwyn y llyfr hwn oedd cyfweliad ar gyfer swydd darlithydd Athroniaeth gyda’r Coleg Cymraeg, dros wyth mlynedd yn ôl. Gwyddwn ddigon bryd hynny i sylweddoli y byddai yna bosibiliadau difyr wrth ymgymryd ag athroniaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal

Darllen mwy

Diwinyddiaeth Paul

John Tudno Williams yn cyflwyno ei lyfr, Diwinyddiaeth Paul: Gan Gynnwys Sylw Arbennig i’w Ddehonglwyr Cymreig. Cysylltir enw’r Apostol Paul â thri ar ddeg o Epistolau’r Testament Newydd a gyfeiriwyd at eglwysi neu unigolion gwahanol. Buont dan drafodaeth ymysg Cristnogion ac eraill am yn agos i ddwy fil o flynyddoedd, a chwaraeodd eu cynnwys ran

Darllen mwy

Lleiafrifoedd ethnig mewn cenedl leiafrifol

Simon Brooks yn cyflwyno Hanes Cymry: Lleiafrifoedd Ethnig a’r Gwareiddiad Cymraeg. Pwy yw’r Cymry? Wel, yn sicr, nid cenedl fonoethnig ydyn nhw. Roedd yr hen Gymry yn dathlu eu bod yn Frythoniaid, ac eto ar yr un gwynt byddent yn dweud eu bod yn blant i Rufain. Hyd yn oed heddiw, mae’r myth yn rhan

Darllen mwy

Sylfeini Cyfieithu Testun

Ben Screen yn cyflwyno ei lyfr newydd, Sylfeini Cyfieithu Testun: Cyflwyniad i Gyfieithu Proffesiynol. Gwlad ddwyieithog yw Cymru, er bod dealltwriaeth simsan o’r dwyieithrwydd hwnnw yn bell o fod anghyffredin ymysg ei phoblogaeth ei hun. Gall hyn fod ar ei fwyaf amlwg yn achos cyfieithu; oni all unrhyw un gyfieithu os yw’n ddwyieithog? Rhaid oedi

Darllen mwy

Gweisg Prifysgol yn lansio menter EvenUP

Mae’n bleser gan brif weisg prifysgol y DU ac Iwerddon gyhoeddi lansio fframwaith cydweithio newydd. Mae EvenUP yn dangos ymrwymiad gweisg prifysgol y DU ac Iwerddon i gydraddoldeb, amrywiaeth, cynwysoldeb a pherthyn yn ein gweithleoedd, gyda phwy rydym ni’n gweithio a’r hyn a gyhoeddwn. Gan gydnabod bod gan wahanol weisg a rhiant-sefydliadau eu mentrau cydraddoldeb,

Darllen mwy

Llyfr cyntaf Gwasg Prifysgol Cymru, 1923

Yn ystod un o gyfarfodydd cyntaf Bwrdd Gwasg Prifysgol Cymru yn gynnar ym mis Ebrill 1923, nodwyd bod aelodau’r Bwrdd wedi derbyn copïau o’r llyfr cyntaf un a gyhoeddodd GPC union ganrif yn ôl, sef The Poetical Works of Dafydd Nanmor. Golygywd y gyfrol gan y diweddar Thomas Roberts o Borth-y-Gest ac fe’i chwblhawyd ar

Darllen mwy

Cyhoeddi REF 2028

Mae cyrff cyllido addysg uwch y DU (CCAUC, Research England, Cyngor Cyllido’r Alban, ac Adran yr Economi, Gogledd Iwerddon) wedi gwneud penderfyniadau cychwynnol ynghylch cynllun lefel uchel y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) nesaf. Ceir manylion pellach ynglŷn â’r camau nesaf yn y ddogfen hon:  https://www.hefcw.ac.uk/wp-content/uploads/2023/06/W23-13HE-Research-Excellence-Framework-2028-initial-decisions-and-issues-for-further-consultation-Cymraeg.pdf Os oes gennych unrhyw gwestiynau fel awdur, cysylltwch â’ch Golygydd

Darllen mwy

Yr Athro Robin Okey

Hoffai Wasg Prifysgol Cymru ymestyn ein cydymdeimlad i deulu a ffrindiau Robin Okey yn eu profedigaeth ddiweddar. Ganwyd Robin Okey yng Nghaerdydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Derbyniodd ei addysg uwch ym Mhrifysgol Rhydychen cyn mynd ymlaen i ddarlithio hanes modern ym Mhrifysgol Warwick am dros ddeugain mlynedd. Roedd yn Athro Emeritws gyda’r Brifysgol

Darllen mwy

-
+

SÊL GWANWYN

Manteisiwch ar 70% oddi ar dros 300 o'n llyfrau!