Astudiaethau Cymreig: y ffordd ymlaen – Gregynog, 26 Tachwedd 2014

Mynychais gynhadledd undydd yn ddiweddar wedi’i threfnu gan y Gymdeithas Ddysgedig yng Nghymru, gyda chefnogaeth Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, er mwyn trafod dyfodol Astudiaethau Cymreig. Roedd y trefnwyr wedi casglu rhestr nodedig o siaradwyr a chynadleddwyr ynghyd, yn cynnwys academyddion blaenllaw o feysydd hanes a llenyddiaeth Gymraeg a Chymreig. Croesawodd Syr Emyr Jones Parry,