REF 2020 a Mynediad Agored ar gyfer Monograffau

Gwnaeth HEFCE y cyhoeddiad canlynol yn ei llythyr newyddion ar y 6 Chwefror; cyfeiriwch at wefan HEFC ar gyfer manylion pellach. “Wrth baratoi ein cynlluniau ar gyfer mynediad agored a’r Fframwaith Ymchwil Addysg Uwch (REF) nesaf, gwnaethom dderbyn cyngor clir iawn nad yw’r byd cyhoeddi monograffau yn barod eto i gefnogi anghenion mynediad agored. Rydym

Darllen mwy

Croeso i’n gwefan newydd

Croeso cynnes iawn i gyfnod cyffrous newydd ar gyfer y Wasg – gwefan newydd sbon gyda’n blogiau dwyieithog ein hunain ar ystod eang o bynciau difyr. Gan ein bod yn cael y fraint o weithio gyda chymaint o awduron gwahanol a thalentog o bedwar ban byd, byddwn yn gwahodd rhai ohonynt i ysgrifennu blogiau ar

Darllen mwy

R. S. yn ei lordio hi yn Llundain

Cyn diwedd blwyddyn ei ganmlwyddiant y llynedd, bu R. S. Thomas yn ei lordio hi yn Llundain. Ar nos Lun, 2 Rhagfyr, cyflwynwyd darlith gan yr Arglwydd Gowrie ar ‘The Witness of R. S. Thomas’. Daliodd Grey Gowrie sawl swydd yn y Cabinet o dan Margaret Thatcher, a bu’n gadeirydd ar Sotheby’s a Chyngor Celfyddydau

Darllen mwy

Digwyddiadau Chwefror

Bydd Gwasg Prifysgol Cymru yn cymryd rhan yn y cynadleddau canlynol yn ystod Chwefror: 3ydd Bydd Robin Grossmann yn mynychu digwyddiad mae Prifysgol Caerdydd wedi trefnu er mwyn lansio llyfrau a ysgrifennwyd gan staff Ysgol y Gymraeg, yn cynnwys tri llyfr a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru sef Jaitacht, Parents Personalities and Power a Pe

Darllen mwy

Argyfwng Astudiaethau Cymraeg

‘Astudiaethau Cymreig’: ymadrodd digon llipa, yn fy marn i. Pwy glywodd am gyfeiriad at ‘Astudiaethau Seisnig’ erioed ym mhrifysgolion Lloegr? Yno, yr un fath ag ym mhob gwlad aeddfed arall, y mae’r gwaith cyson o fwrw gorolwg ddeallusol amlweddog a chynhwysfawr dros brif nodweddion y genedl yn wedd annatod a chanolog ar y gyfundrefn addysg,

Darllen mwy

Digwyddiadau Ebrill

Bydd staff Gwasg Prifysgol Cymru yn mynychu’r cynadleddau canlynol yn ystod Ebrill: 3 – 4 Ebrill Bydd Catherine Jenkins yn mynychu cynhadledd Cymdeithas Astudiaethau America Ladin (SLAS) yn Llundain, lle fydd yn gwerthu llyfrau o’r gyfres Iberian and American Studies ac yn rhwydweithio ag awduron a chynadleddwyr. 8 – 10 Ebrill Bydd staff yn mynychu 

Darllen mwy

Cynhadledd y Gymdeithas Cyhoeddwyr Annibynnol (IPG)

Cynhaliwyd cynhadledd flynyddol Cymdeithas Cyhoeddwyr Annibynnol (IPG) yn agos i Rydychen wythnos diwethaf. Roedd y neuadd arddangos yn llawn o stondinau gyda llyfrau ar bob pwnc dan haul o’r cannoedd o gyhoeddwyr annibynnol a gynrychiolwyd yn y gynhadledd.  Ar ôl paned a chyfle i gael sgwrs, ymlwybrodd y dorf mewn i’r neuadd ddarlithio er mwyn

Darllen mwy

Cynhadledd y Gyfraith

Mynychais Gynhadledd Genedlaethol y Gyfraith yn ddiweddar ar ddiwrnod o haul godidog ym Mae Caerdydd. Trefnwyd y gynhadledd yn adeilad hardd y Pierhead gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Roedd yr ystafell gynadledda yn orlawn o fyfyrwyr sy’n astudio’r Gyfraith yn rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd ym mhrifysgolion Cymru. Derbyniwyd y coffi

Darllen mwy

From the HEFCE newsletter 06.02.14

In planning an approach for open access and the next REF, we received very clear advice that the monograph publishing world is not yet ready to support an open-access requirement. We have listened to this advice, and are proposing that monographs will not be required to be published in an open-access form to be eligible for

Darllen mwy

Cynhadledd Ganoloesol Rhyngwladol Leeds 2014

Teithiais i Leeds ar y 9fed o Orffennaf er mwyn mynychu’r gynhadledd ganoloesol ryngwladol sy’n cael ei chynnal yn y brifysgol yno bob blwyddyn. Mae dros 2,000 o haneswyr, ymchwilwyr, awduron a myfyrwyr o Brydain, Ewrop  a thu hwnt yn mynychu’r gynhadledd, sy’n cynnwys mwy na mil o bapurau a sesiynau dros bedwar diwrnod. Bûm

Darllen mwy

Mewn Sgwrs â’r… Arglwydd Heseltine

Dathlodd Canolfan y Llywodraethiant Cymru a Phrifysgol Agored Cymru Galan Mai trwy gynnal sgwrs â’r Arglwydd Heseltine ym Mae Caerdydd.  Aeth y Wasg i’r digwyddiad er mwyn cefnogi ein hawduron gyda stondin o lyfrau gwleidyddol ac er mwyn clywed y dyn enwog – a bachgen Abertawe! – o lygad y ffynnon. Roedd y sgwrs rhwng

Darllen mwy

Cynhadledd Cymdeithas Llên Saesneg Cymru, 11–13 Ebrill, Gregynog

Mynychais gynhadledd flynyddol Cymdeithas Llên Saesneg Cymru yn ddiweddar. Cynhaliwyd y gynhadledd yn neuadd ysblennydd Gregynog gyda’i gyfoeth o weithiau celf o gasgliad anhygoel y chwiorydd Davies. Lleoliad delfrydol i ysbrydoli trafodaeth a syniadau ynglŷn â llenyddiaeth, ac yn sicr bu tipyn go lew o drafod dros y penwythnos! Roedd papur yr Athro Murray Pittock

Darllen mwy

Symposiwm: Darllen Tsieina, Cyfieithu Cymru

Trefnwyd symposiwm ym Mangor ar yr 2il o Fai gan Gyfnewidfa Lên Cymru a Phrifysgol Cymru er mwyn trafod y berthynas sydd wrthi’n tyfu rhwng llenorion o Gymru a Tsieina. Hyrwyddwyd y berthynas gan rifyn arbennig diweddar cyfnodolyn o’r Shangai Translation Publishing House yn cynnwys cyfieithiadau o weithiau llenyddol o Gymru mewn Tsieinëeg. Cyhoeddwyd tua

Darllen mwy

Digwyddiadau Gorffennaf

Bydd Gwasg Prifysgol Cymru yn cymryd rhan yn y digwyddiadau a chynadleddau isod yn ystod mis Gorffennaf: 1-3    Cynhadledd Canoloeswyr Iwerddon, Coleg y Brifysgol Dulyn 6-11    Cymdeithas Athroniaeth Awstralasia, Prifysgol Genedlaethol Awstralia 7-10    Cyngres Ganoloesol Ryngwladol, Leeds 10-13    22ain Cynhadledd Cymdeithas Gogledd America ar gyfer Astudio Rhamantiaeth 11-13    Sesiwn ar y Cyd o’r Gymdeithas Aristotlean

Darllen mwy

Teitlau Mehefin

Carmarthen Castle: The Archaeology of Government Building Jerusalem: Nonconformity, Labour and the Social Question in Wales, 1906-1939 Dwy Gymraes, Dwy Gymru: Hanes Bywyd a Gwaith Gwyneth Vaughan a Sara Maria Saunders J.O. Francis, realist drama and ethics: Culture, Place and Nation Castell Caerfyrddin: Olrhain Hanes Llywodraethiant

Cynhadledd Ymchwil Amlddisgyblaeth Cyfrwng Cymraeg

Roedd cynhadledd ymchwil flynyddol y Coleg Cymraeg ar Fehefin y 19eg yn wledd o bapurau difyr a disglair ar draws ystod eang tu hwnt o ddisgyblaethau a phynciau. Myfyrwyr ymchwil a darlithwyr ifanc o fewn y Coleg a draddododd y papurau amrywiol ar ddiwrnod braf iawn o haf yng Ngregynog. Cychwynnodd Dr Ruth Wyn Williams

Darllen mwy

Gwyl Llenyddiaeth Dinefwr

Dychwelodd Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr i Barc prydferth Dinefwr yn Llandeilo am yr ail dro dros benwythnos 20-22 Mehefin. Mwynhaodd yr ymwelwyr benwythnos llawn llenyddiaeth, cerddoriaeth a bwyd blasus mewn heulwen braf.   Roeddwn yn ddigon ffodus i gynrychioli Gwasg Prifysgol Cymru yn yr Ŵyl gyda stondin, a mwynheais siarad â chwsmeriaid wrth werthfawrogi rhywfaint o

Darllen mwy

Digwyddiadau Eisteddfod Genedlaethol 2014

Amserlen Digwyddiadau Gwasg Prifysgol Cymru Eisteddfod Genedlaethol 2014   Dydd Llun y 4ydd   4:00yp  Bydd yr Athro Densil Morgan yn lansio ei lyfr newydd Thomas Charles o’r Bala ar stondin Prifysgol Cymru.   Dydd Mawrth y 5ed   11:00yb  Ymunwch â Mair Rees ym mhabell Merched y Wawr i drafod ei llyfr newydd Y

Darllen mwy

Cynhadledd Ryngwladol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Cynhaliwyd cynhadledd ryngwladol gyntaf erioed y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar Orffennaf 1–3, ac roedd y digwyddiad tri diwrnod yn lwyddiant ysgubol. Mynychodd dros ddau gant o academyddion, myfyrwyr ymchwil ac aelodau o’r cyhoedd, yn eu plith ddarlithwyr ac arbenigwyr blaenllaw mewn ieithoedd lleiafrifol o bob cwr o Ewrop. Un o’r rhain oedd y prif siaradwr

Darllen mwy

Eisteddfod 2014

Cyrhaeddais faes yr Eisteddfod ar fore dydd Sadwrn a thrwy lwc roedd yr haul yn tywynnu! Arhosodd y tywydd yn braf am ran fwyaf o’r wythnos, er i ni gael sawl cawod drom iawn ar ddyddiau Llun a Mawrth. Cyfrannodd yr haul yn sicr at yr awyrgylch hamddenol a thesog ar y maes eleni. Roedd

Darllen mwy

Barn o’r Brifysgol

Barn o’r Brifysgol – Sut mae GPC yn cofleidio newidiadau modern yn y diwydiant cyhoeddi. Gwelwyd newidiadau dramatig yn y byd cyhoeddi dros y blynyddoedd diwethaf, yn sgil y chwyldro digidol. Llyfrau oedd un o’r nwyddau traul mwyaf llwyddiannus i’w gwerthu ar-lein, gan arwain at ddyfodiad y gwerthwr ar-lein hollbresennol hwnnw, Amazon. Daeth dulliau argraffu digidol

Darllen mwy

Digwyddiadau Tachwedd

Bydd staff Gwasg Prifysgol Cymru yn mynychu’r cynadleddau canlynol yn ystod Hydref: 31 Hydref-01 Tachwedd    ‘Migrating Texts’: Is-deitlo, Cyfieithu, Addasu, Tŷ Senedd, Llundain 6-9    Cymdeithas Astudiaethau Americanaidd, ‘The Fun and the Fury’: Dialecteg Newydd o Bleser a Phoen yn y Ganrif Ôl-Americanaidd, Westin Bonaventure, Los Angeles, CA 8-9    Seithfed Colocwiwm Bangor ar

Darllen mwy

Thomas Charles o’r Bala

5 Hydref 2014 oedd achlysur daucanmlwyddiant marw Thomas Charles o’r Bala. Gwych o beth fod pobl y Bala wedi dod ynghyd, gyda Chymdeithas y Beibl, i nodi’r digwyddiad trwy agor canolfan i ddathlu cyfraniad y dyn mawr i fywyd Cymru a’r byd. Eglwys Beuno Sant ar lan Llyn Tegid yw’r man lle bydd etifeddiaeth Charles

Darllen mwy

Seithfed Colocwiwm Bangor ar Gymru’r Oesoedd Canol

Roedd y dyrfa gymysg o fyfyrwyr ac academyddion o bob oedran a ddaeth ynghyd ar gyfer y Seithfed Colocwiwm ar Gymru’r Oesoedd Canol ym Mhrifysgol Bangor penwythnos diwethaf yn dystiolaeth huawdl o fywiogrwydd y maes yng Nghymru ar hyn o bryd. Diwrnod yn unig o’r gynhadledd y llwyddais i’w fynychu ond roedd hwnnw’n ddiwrnod gorlawn

Darllen mwy

Cynhadledd ArchaeOrffennol 2014

Daeth cynulleidfa sylweddol at ei gilydd yng Nghaerdydd ar gyfer cynhadledd flynyddol archaeoleg Amgueddfa Cymru ar ddydd Sadwrn, 15 Tachwedd, a hithau’n ddiwrnod o dywydd gwlyb. Cychwynnodd Peter Wakelin, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil yr Amgueddfa, y diwrnod gyda sgwrs ddifyr ar Safleoedd Treftadaeth y Byd, yn arbennig y tri sydd yng Nghymru eisoes: cestyll a

Darllen mwy

Astudiaethau Cymreig: y ffordd ymlaen – Gregynog, 26 Tachwedd 2014

Mynychais gynhadledd undydd yn ddiweddar wedi’i threfnu gan y Gymdeithas Ddysgedig yng Nghymru, gyda chefnogaeth Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, er mwyn trafod dyfodol Astudiaethau Cymreig. Roedd y trefnwyr wedi casglu rhestr nodedig o siaradwyr a chynadleddwyr ynghyd, yn cynnwys academyddion blaenllaw o feysydd hanes a llenyddiaeth Gymraeg a Chymreig. Croesawodd Syr Emyr Jones Parry,

Darllen mwy

Gwybodaeth Breindaliadau

Cliciwch yma os gwelwch yn dda i ddarllen ein Llythyr a Chanllawiau Breindaliadau

Monograffau a Mynediad Agored

Mae canlyniadau Prosiect Monograffau a Mynediad Agored Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr, a arweiniwyd gan Yr Athro Geoffrey Cossick, wedi cael eu cyhoeddi wythnos diwethaf. Mae’r adroddiad yn gwneud cyfraniad gwerthfawr ac amserol i’r drafodaeth ar Fynediad Agored yn y Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol, ac yn cydnabod yr her a’r cyfleoedd posib mae Mynediad Agored

Darllen mwy

Digideiddio Clasuron Gwasg Prifysgol Cymru

Dros y deunaw mis nesaf bydd Gwasg Prifysgol Cymru yn cyhoeddi fersiynau digidol o rai o’i chlasuron a restrwyd gan ddarlithwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel gweithiau sydd o ddefnydd arbennig ar gyfer dysgu myfyrwyr trwy gyfrwng y Gymraeg ar draws ystod eang o bynciau – yn cynnwys Athroniaeth, Hanes, Y Gyfraith a Gwyddoniaeth. Bwriad

Darllen mwy

Teitlau Chwefror 2015

The Place Names of Wales  The North Wales Quarrymen Let’s Do Our Best For the Ancient Tongue Abbeys & Priories of Medieval Wales

Digwyddiadau Chwefror a Mawrth

Bydd staff Gwasg Prifysgol Cymru yn mynychu’r cynadleddau canlynol yn ystod Chwefror a Mawrth: Chwefror 4-6      Cymdeithas Arthuraidd Ryngwladol, Granada, Sbaen 7      Colocwiwm Eingl-Sacsonaidd, Norseg a Chelteg, Prifysgol Caergrawnt 18      Cymdeithas Athronyddol America, St Louis, Missouri   Mawrth 4-6      Cynhadledd IPG, Rhydychen 6      Cynhadledd Ursula

Darllen mwy

Teitlau Mawrth 2015

Teitlau Mawrth 2015 Liberating Dylan Thomas: Rescuing a Poet from Psycho-Sexual Servitude A Tolerant Nation?: Revisiting Ethnic Diversity in a Devolved Wales

Digwyddiadau Ebrill 2015

11    ‘Contest and Collaboration’: Cynhadledd ar y Mers, Prifysgol Caer 13–15    Cynhadledd Cymdeithas HisbanegPrydain Fawr ac Iwerddon (AHGBI), Prifysgol Caerwysg 13–16    Cynhadledd Cymdeithas Anthropolegwyr Cymdeithasol, Prifysgol Caerwysg 14–16    Ffair Lyfrau Llundain, Kensington Olympia 16    Stefano Tura yn sgwrsio gyda Giuliana Pieri – Sefydliad Diwylliannol Eidalaidd, Caeredin 16    Darlith yr

Darllen mwy

Buddsoddwyr Mewn Pobl

Mae’n dda gan Wasg Prifysgol Cymru gyhoeddi parhau ei statws fel Buddsoddwr Mewn Pobl yn dilyn asesiad 2015. Dyfernir hyn i gyflogwyr sy’n ymrwymedig i’r arfer gorau, sy’n cydnabod cyrhaeddiad unigolion, ac sy’n arddangos gwerthfawrogiad o’u gweithluoedd. Am fwy o fanylion, gweler http://www.investorsinpeople.co.uk/

Barn o’r Brifysgol – Helgard Krause, Gwasg Prifysgol Cymru

Erthygl i’r Western Mail am y newidiadau cyflym mewn technolegau digidol, a’r penderfyniadau a’r prosesau sy’n rhan o’r gwaith o ddigido ôl-gatalog helaeth y Wasg. Mae’r newidiadau cyflym mewn technolegau digidol wedi cyflwyno llawn cymaint o gyfleoedd ag o heriau i gyhoeddwyr, a dyw Gwasg Prifysgol Cymru ddim yn eithriad. Ers peth amser rydym ni

Darllen mwy

Yr Athro Geraint Gruffydd: Atgofion Cyd-weithiwr gan Ann Parry Owen

Llun: Yr Athro R. Geraint Gruffydd a’r Athro J.E. Caerwyn Williams Trist iawn oedd clywed am farwolaeth Yr Athro Emeritws R. Geraint Gruffydd MA DPhil DLitt FLSW FBA, yn ei gartref yn Aberystwyth brynhawn Mawrth, 24 Mawrth, yn 86 oed. Ef oedd Cyfarwyddwr cyntaf Y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, o 1985, pan fabwysiadwyd y Ganolfan

Darllen mwy

Digwyddiadau Mai 2015

8-10    Cynhadledd Menywod yn Ffrangeg, Prifysgol Leeds 9    Symposiwm Ail-ddychmygu y Gothig, Sheffield 14-17     Cyngres Ryngwladol ar Astudiaethau Canoloesol, Prifysgol Gorllewin Michigan, Kalamazoo 20-22    Merched a Heneiddio: Safbwyntiau Diwylliannol a Beirniadol Newydd, Prifysgol Limerick 21-31    Gŵyl y Gelli, Y Gelli Gandryll 27-30    Cyngres Cymdeithas Astudiaethau America Ladin, San

Darllen mwy

Teitlau Ebrill 2015

Women’s Writing in Twenty-first-century France: Life as Literature (NiP) Liberty’s Apostle: Richard Price, His Life and Times Wales Unchained: Literature, Politics and Identity in the American Century

Areithiau ac Erthyglau 1968- 2012, Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru.

Areithiau ac Erthyglau 1968- 2012, Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru. Am y tro cyntaf, bydd areithiau Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru ar gael mewn set o ddwy gyfrol mewn prosiect cydweithredol gan Brifysgol Cymru, Prifysgol Maryland a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae’r Athro David Cadman a’r Athro Suheil Bushrui wedi crynhoi detholiad o

Darllen mwy

Teitlau Mai 2015

Adapting Nineteenth-century France: Literature in Film, Theatre, Television, Radio and Print The Gothic and the Carnivalesque in American Culture

Digwyddiadau Mehefin 2015

4-5    Yr Ardd Ganoloesol a Modern Cynnar: Amgáu a Thrawsnewid, Prifysgol Abertawe 5    Cynhadledd Gwerthiant Durnell Marketing, Caerdydd 10    Cynhadledd Gwerthiant Cyngor Llyfrau Cymru, Aberystwyth 10-12    Congreso Internacional ‘Ramon Muntaner: fets, dits i ‘veres veritats’ (1265-1336)’, Prifysgol Girona 15    Lansiad Pam na fu Cymru gan Simon Brooks, Canolfan Hanes Uwchgwyrfai,

Darllen mwy

Cynhadledd Gwerthiant Gwasg Prifysgol Chicago ar gyfer Hydref 2015

Rhwng 28 Ebill–2 Mai, mynychodd Rheolwraig Gwerthiant a Marchnata’r Wasg, Eleri Lloyd-Cresci, Gynhadledd Gwerthiant Gwasg Prifysgol Chicago (UCP) ar gyfer Hydref 2015. Mae UCP yn dosbarthu llyfrau ar ein rhan yng Ngogledd a De America, Awstralia a Seland Newydd. UCP yw gwasg fwyaf ac un oweisg prifysgol hynaf yr Unol Daleithiau. Cynhelir dwy gynhadledd werthiant

Darllen mwy

Dydd Dylan 2015

I ddathlu Dydd Dylan Thomas 2015, gallwch brynu’r llyfrau canlynol (fersiwn clawr papur ac electronig) gyda gostyngiad o 10% a chludiant am ddim yn ystod yr wythnos nesaf. Cliciwch ar un o’r dolenni isod, dewiswch y fersiwn clawr papur neu electronig, cliciwch ‘Opsiynau Prynu’ wedyn ‘Prynwch’, a pan ofynnir, defnyddiwch y côd: DYLAN2015 Dylan Thomas gan

Darllen mwy

FfugLen yn Arloesi

Mae Mynediad Agored (Open Access) yn bwnc sydd wedi ysgogi trafodaeth fywiog mewn cylchoedd academaidd ers cryn amser bellach, ac mae yna nifer o astudiaethau a phrosiectau peilot cyfredol sy’n ystyried y cwestiynau cymhleth a godir gan y model hwn o ledaenu gwaith ysgolheigaidd. Mae Mynediad Agored yn golygu gweithiau academaidd sydd ar gael yn

Darllen mwy

Cynhadledd Cymru a’r Mers, Prifysgol Caer

Cynhaliwyd cynhadledd gyntaf Prifysgol Caer ar Gymru a’r Mers, Contest and Collaboration, Chester Conference on the March of Wales, yn ystod Ebrill. Roedd y gynulleidfa o dros gant a fynychodd y diwrnod yn dyst i’r diddordeb cyfredol yn hanes Cymru a’r Mers yn y Canol Oesoedd a’r cyfnod modern cynnar ymhlith haneswyr ac aelodau o’r

Darllen mwy

Digwyddiadau Gorffennaf 2015

2 Cynhadledd Wyddelig Canoloeswyr, Y Gegin Vintage, Dulyn 2-5 Cynhadledd Flynyddol y Gymdeithas Brydeinig ar gyfer Hanes Gwyddoniaeth, Prifysgol Abertawe 3-4 Cynhadledd Cymdeithas Haneswyr Busnes, Prifysgol Exeter 6-9 Cyngres Ryngwladol Ganoloesol, Prifysgol Leeds 9-10 Colocwiwm Canoloesol ac Oes Aur (Astudiaethau Sbaenaidd), Prifysgol Northumbria 10-11 47fed Cynhadledd Flynyddol Cymdeithas Ymchwil Cylchgronau Fictorianaidd, Prifysgol Ghent, Gwlad Belg

Darllen mwy

Lansio Tueddiadau Ieithoedd Cymru ac Arddangosiad Llwybrau at Ieithoedd Cymru

Cynhaliwyd noson Lansio Tueddiadau Ieithoedd Cymru ac Arddangosiad Llwybrau at Ieithoedd Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd ar 2 Mehefin, a drefnwyd gan Lwybrau at Ieithoedd Cymru, y Cyngor Prydeinig yng Nghymru, Ymddiriedolaeth Addysg CfBT, UCML Cymru a CILT Cymru. Cadeiriodd yr Athro Claire Gorrara, cyd-olygydd cyfres Ffrengig a Ffrangeg GPC, rhan gyntaf y noson i grynhoi

Darllen mwy

Cynhadledd Ôl-Raddedigion Canolfan Richard Burton, 8 Mehefin 2015

Mynychais gynhadledd flynyddol Canolfan Richard Burton ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe ar yr 8fed o Fehefin. Roedd safon y papurau a gyflwynwyd trwy gydol y diwrnod yn uchel iawn. Llên Saesneg Cymru oedd pwnc y sesiwn gyntaf, maes y mae Abertawe’n gryf iawn ynddo o ran staff ac ôl-raddedigion. Dechreuodd Liza Penn Thomas

Darllen mwy

Cyfnodolyn newydd: The Journal of Religious History, Literature and Culture

Bydd Gwasg Prifysgol Cymru yn cyhoeddi cyfnodolyn rhyngddisgyblaethol newydd, The Journal of Religious History, Literature and Culture, o 2015 ymlaen. Bydd y cyfnodolyn, sy’n olynu The Welsh Journal of Religious History a Trivium, yn cynnwys erthyglau ar bob agwedd o hanes, llenyddiaeth a diwylliant crefyddau o bob rhan o’r byd. Saesneg bydd iaith y cyfnodolyn,

Darllen mwy

Digwyddiadau Awst 2015

1-8    Eisteddfod Genedlaethol, Meifod 3-7    XVII Cyngres Hanes Economaidd y Byd, Canolfan Gynadledda Ryngwladol Kyoto, Japan 27-28    ECREA Cynhadledd Cyfathrebu Gwleidyddol 2015 ‘Newid cyfathrebu gwleidyddol, newid Ewrop?’, Prifysgol De Denmarc 27-29    Cynhadledd y Gymdeithas Brydeinig ar gyfer Astudiaethau Fictoraidd: Oes(au) Fictoraidd, Prifysgol y Drindod Leeds

When Will Wales Be? Simon Brooks & Daniel Williams argue and debate

Informed by history, inspired by the Scottish revolutions, rolling debate about the future of Welsh nationalism. When was Wales, and when will it be? Opportunities for all to discuss. All welcome. Ymlaen mae Canaan! Ymlaen! #PrydBydd Mawrth, 7 Gorffennaf 7yh ABERYSTWYTH – Caffi MGs Cadeirydd: Jasmine Donahaye Noddwyr: Coleg Cymraeg Cenedlaethol Mynediad: prynwch baned! Digwyddiad

Darllen mwy

Digwyddiadau Medi 2015

5    10fed Cynhadledd MA ar gyfer Athrawon Mathemateg Uwchradd, Prifysgol Stirling 7    Rhwydwaith Modernaidd Cymru Cynhadledd 2015, Prifysgol Abertawe 7-9    Cymdeithas Arthuraidd Ryngwladol, Cynhadledd Flynyddol Cangen Prydain, Prifysgol Efrog 8-10    Cynhadledd Flynyddol ASMCF 2015: ‘Myth Making’, Prifysgol Hull 10    Gweithdy MeCCSA, ‘Shared Solidarities’, Prifysgol Sheffield Hallam 11-12    Chwyldro, Ymneilltuaeth,

Darllen mwy

Paratoi ar gyfer REF

Tra bod llawer o academyddion yn mwynhau eu gwyliau haf dros y moroedd, mae cwmwl ar ffurf y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) nesaf yn prysur agosáu i’r lan. O gymryd y bydd yr amserlen yn dilyn un REF 2014, byddwn yn anelu i gyhoeddi llyfrau a chyfnodolion ar gyfer REF 2020 erbyn Medi 2019 –

Darllen mwy

Cynhadledd Llên Gwerin ac Anthropoleg

Ar Ddydd Gwener 16 Hydref mynychais gynhadledd ar y cyd rhwng y Gymdeithas Llên Gwerin a’r Sefydliad Anthropolegol Brenhinol yn Llundain. Cynlluniwyd y gynhadledd er mwyn hybu cydweithrediad rhwng y ddwy ddisgyblaeth. Yn hanesyddol, mae aelodaeth y Gymdeithas a’r Sefydliad wedi gorgyffwrdd, sy’n tystio i’r agosatrwydd rhwng y ddau faes. Dangoswyd hynny’n glir yn y

Darllen mwy

Ffair Lyfrau Frankfurt

Gall canol Hydref feddwl un peth yn unig: Ffair Lyfrau Frankfurt! Mae’r Frankfurter Buchmesse bron mor hen â’r llyfr printiedig, ac mae’n parhau i fod yn un o uchafbwyntiau calendr cyhoeddwyr pob blwyddyn. O’r 14-18 Hydref roedd Gwasg Prifysgol Cymru yn rhan o stondin yr ‘Independent Publishers Guild (IPG)’, gydag ein cyfeillion o weisg prifysgolion

Darllen mwy

Lansio hunangofiant Kenneth O. Morgan

Yn ei hunangofiant dadlennol, a gyhoeddwyd yn agos i’w ben-blwydd yn wythdeg, mae Kenneth O. Morgan yn adlewyrchu ar ei brofiadau o briodi a cholled, o ail-briodi a bod yn rhiant, cyfeillgarwch, crefydd a moesoldeb, a’i ymatebion i’r newidiadau hanesyddol mae wedi tystio iddynt, o fynychu ysgol bentref yng Nghymru wledig yn ystod yr ail

Darllen mwy

Swydd Wag – Swyddog Datblygu Marchnata

Gwahoddir ceisiadau am y swydd uchod sydd wedi ei lleoli yng Ngwasg Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd, i arwain a datblygu ymhellach ei gweithgareddau marchnata ar draws pob sianel gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol. I gael rhagor o fanylion, cliciwch yma I gael ffurflen gais arlein, cliciwch yma Dyddiad Cau: 25 Ionawr 2016

Paratoi ar gyfer Mynediad Agored a’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF)

Bydd Mynediad Agored yn orfodol o eleni ymlaen i erthyglau mewn cyfnodolion ar gyfer REF, felly hoffwn atgoffa cyfranwyr a golygyddion ein cyfnodolion yn gyflym am hyn. Y dyddiad allweddol yw 1 Ebrill 2016, oherwydd fe fydd Mynediad Agored yn amod hanfodol ar gyfer erthyglau mewn cyfnodolion a’u derbyniwyd i’w cyhoeddi ar ôl y dyddiad

Darllen mwy

XML ym Manceinion

Ar 15 Mawrth 2016, mynychodd tri ohonom o GPC gwrs undydd XML, sef ‘Extensible Markup Language’, wedi’i drefnu gan John Normansell o Wasg Prifysgol Manceinion. Ymunodd cynrychiolwyr o Wasg Prifysgol Caeredin a Gwasg Prifysgol Lerpwl gyda ni mewn ystafell yn Adeilad Renold. Mae’r adeilad hwn hefyd yn gartref i swyddfa GPM ar gampws y Brifysgol,

Darllen mwy

Lansiad Yr Athrofa: Institute for Education

Lansiwyd menter bwysig ym myd addysg yng Nghymru ar y 15fed o Fehefin yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd. Mae arbenigwyr rhyngwladol blaengar ym myd addysg wedi estyn eu cefnogaeth i sefydlu Comisiwn Addysg Cymru i weithio ochr yn ochr â’r Athrofa: Institute for Education, a sefydlwyd gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant er mwyn

Darllen mwy

Wythnos Adolygiadau Cymar 2016

19eg-26ain o Fedi yw Wythnos Adolygiadau Cymar ‘Scholarly Kitchen’; fel mae’r cogyddion yn nodi yn eu blog ar y 19eg o Orffennaf, “Roedd wythnos Adolygu 2015 yn ddigwyddiad bach, arbrofol. Ond fe wnaeth daro nodyn gyda llawer o unigolion a sefydliadau.” Felly, ar ôl yr arbrawf cyntaf, rydym yn falch iawn yma yng Ngwasg Prifysgol

Darllen mwy

Cyfarwyddwr Newydd i Wasg Prifysgol Cymru

Mae Prifysgol Cymru yn falch iawn i gyhoeddi bod Natalie Williams wedi’i phenodi’n Gyfarwyddwr newydd ar Wasg Prifysgol Cymru. Ganwyd a magwyd Natalie yng Nghaerdydd, a daw â dealltwriaeth eang o’r byd cyhoeddi i’r rôl. Graddiodd ag Anrhydedd mewn Llenyddiaeth Saesneg ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Southampton, a dechreuodd ei gyrfa gyhoeddi ym maes Cyfraith academaidd

Darllen mwy

Cyfaill Pwy o’r Hen Wlad?

gan Rhiannon Heledd Williams, awdur Cyfaill Pwy o’r Hen Wlad? Pennod goll yn hanes Cymru yw’r un am y Cymry a ymfudodd i Ogledd America yn y 19eg ganrif. Erbyn 1850, credir bod tua 30,000 o Gymry wedi ymgartrefu ar y cyfandir – mwy o lawer nag i Batagonia – er i’r Wladfa ennyn llawer

Darllen mwy

Cof ac Hunaniaeth yn y Wladfa

gan Geraldine Lublin, awdur Memoir and Identity in Welsh Patagonia: Voices from a Settler Community in Argentina Mewn cyfweliad diweddar ar BBC Radio Cymru, gofynnwyd imi a ddylai’r Cymry ymddiheuro i bobloedd frodorol Patagonia am gymryd eu gwlad. Roedd hwn yn gwestiwn anodd a chymhleth I’w  ateb yn llawn o fewn yr ychydig funudau oedd gen

Darllen mwy

Cristnogaeth a Gwyddoniaeth

gan Noel A. Davies a T. Hefin Jones, awduron Cristnogaeth a Gwyddoniaeth Noel A. Davies Fy wythnos gyntaf yn Ysgol Ramadeg Llambed. Ar yr amserlen: ‘science’. A doeddwn i ddim wedi clywed y gair o’r blaen! Mynd i’r wers gynta (ffiseg, os wy’n cofio’n iawn). Ffeindio’r cyfan braidd yn annisgwyl, ond roeddwn yn dda mewn mathemateg

Darllen mwy

Evan James Williams: Ffisegydd yr Atom

Gan Rowland Wynne, awdur Evan James Williams: Ffisegydd yr Atom Un bore, tra ar wyliau yn Copenhagen, penderfynodd ffrind a minne osgoi llwybrau poblogaidd y twristiaid ac ymweld ag archif ym mhrifysgol y brifddinas. I’r rhai sy’n ymddiddori mewn gwyddoniaeth, mae’r archif yn Copenhagen yn un hynod iawn oherwydd ei bod yn gartref i bapurau a

Darllen mwy

Her a Hawl Cyfieithu Dramâu: Saunders Lewis, Samuel Beckett a Molière

Gan Rhianedd Jewell, awdur Her a Hawl Cyfieithu Dramâu: Saunders Lewis, Samuel Beckett a Molière Pan es i am gyfweliad i astudio Ffrangeg ac Eidaleg ym Mhrifysgol Rhydychen, rhoddwyd dau fersiwn o’r un testun imi eu darllen ymlaen llaw: y naill yn y Ffrangeg a’r llall yn y Saesneg. Roedd yn rhaid imi benderfynu pa un

Darllen mwy